Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Sesiwn Alw Heibio Off Flint

Published: 06/02/2023

Flint Castlesmall.jpgMae ‘Off Flint’ – Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir – yn brosiect cyffrous sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol gofnodi, gwarchod a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. Bydd straeon, lluniau ac arteffactau a gasglwyd yn ystod y prosiect yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod y wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb. 

Galwch heibio Llyfrgell y Fflint ddydd Sadwrn, 11 Chwefror 2023, rhwng 10:30am a 12:30pm i ganfod beth yn union yw ‘Off Flint’ a sut allwch chi gymryd rhan.

Mae gennym ffilmiau gwych o’r Fflint o’r 1920au hyd at y 1980au, yn dangos digwyddiadau arbennig a bywyd pob dydd, felly dewch draw i weld a ellwch adnabod un o’ch perthnasau neu ffrindiau.

Os oes gennych hen luniau y byddech yn hoffi eu rhannu, neu luniau wedi eu sganio, dewch â nhw. 

Bydd te a choffi a chacennau am ddim ar gael hefyd i’ch denu chi!

Bydd sesiynau hyfforddiant yn rhad ac am ddim ar sgiliau cyfweld, cofnodi a golygu yn cael eu trefnu’n ddiweddarach yn y gwanwyn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r prosiect.

Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint, ac mae wedi derbyn £54,200 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol, ar 01352 703042, neu e-bostiwch communityheritageofficer@flintshire.gov.uk.

@CronfaDreftadaethyLoteri, #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol