Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ocsid Nitrus
Published: 02/02/2023
Fe hoffai gwasanaeth Diogelu’r Gymuned a Busnesau Cyngor Sir y Fflint wneud preswylwyr a busnesau ar hyd a lled y sir yn ymwybodol o beryglon camddefnyddio Ocsid Nitrus, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel nwy chwerthin, ac atgoffa busnesau ei bod yn anghyfreithlon i’w werthu i’w ddefnyddio gan bobl.
Mae’r potensial ar gyfer cam-drin Ocsid Nitrus yn uchel iawn a gall arwain at nifer o effeithiau iechyd andwyol a hyd yn oed effeithiau parhaol pe bai’n cael ei gam-drin dros gyfnod hir o amser. Mae Ocsid Nitrus yn perthyn i ddosbarth o gyffuriau hamdden a gaiff eu hadnabod fel anadlyddion. Fe all anadlyddion fod yn beryglus gan y gellir dod o hyd iddynt yn aml mewn sylweddau yn y cartref neu’r gweithle.
Fe all anadlu ocsid nitrus arwain at ddiffyg ocsigen i’r ymennydd. Fe all hyn arwain at unigolyn yn syrthio’n anymwybodol a hyd yn oed yn marw drwy fygu neu o ganlyniad i broblemau gyda’r galon. Mae’r risg hwn yn debygol o fod yn uwch os caiff y nwy ei anadlu mewn gofod caeëdig neu os oes llawer yn cael ei ddefnyddio ar yr un pryd.
Mae ocsid nitrus, sy’n cael ei adnabod fel arfer fel ‘nwy chwerthin’ (neu gyda’r ffugenwau ‘Hippy crack’ neu ‘Nos’) yn nwy di-liw anhylosg sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llonyddu a thuag at boen. Hefyd cyfeirir ato weithiau fel anadlydd neu sylwedd anweddol. Mae anadlyddion yn iselyddion y brif system nerfol. Mae hyn yn golygu eu bod yn arafu sut mae’r ymennydd yn gweithio, yn arbennig gydag anadlu a’r galon.
Caiff y nwy ei drosglwyddo fel arfer i gynhwysydd, e.e. balwn, a chaiff y nwy ei anadlu ohono. Fel arfer caiff ocsid nitrus ei anadlu drwy’r geg. Gan fod ocsid nitrus yn nwy dan wasgedd tra’i fod yn y tun, mae yna risg y gallwch niweidio’ch hun os ydych chi’n anadlu ocsid nitrus yn syth o’r tun.
O dan y gyfraith, ers i’r Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol ddod i rym ar 26 Mai 2016, mae wedi bod yn anghyfreithlon i gyflenwi neu i fewnforio ocsid nitrus i’w ddefnyddio gan bobl.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Gorfodi
Mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol a Phlismona yn y Gymdogaeth yn gweithio mewn partneriaeth i leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar y gymuned yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys grwpiau yn ymgasglu ac yn achosi niwsans tra’u bod o dan ddylanwad ocsid nitrus.
Gwerthu yn anghyfreithlon
Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio gyda’r heddlu a phreswylwyr i fynd i’r afael â mannau manwerthu ac unigolion sy’n gwerthu nwy i bobl sy’n bwriadu ei gamddefnyddio, neu ei gyflenwi i unigolyn sydd o dan 18 oed i’w gamddefnyddio.
Mae’r cyngor yn gofyn i breswylwyr roi gwybod am bryderon yn ymwneud â gwerthu ocsid nitrus i’n tîm Safonau Masnach drwy ffonio 01352 703181, neu drwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk
Fe allwch roi gwybod hefyd am unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unigolion sy’n ymwneud â chyflenwi a dosbarthu i unigolion iau drwy’r un broses.
Dolenni defnyddiol:
Drug Wise
Talk to Frank
Newyddion y BBC - pa mor beryglus yw nwy chwerthin?