Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dyddiadau wedi’u cyhoeddi ar gyfer digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ynghylch canol trefi
Published: 27/01/2023
Mae disgwyl i Gyngor Sir y Fflint gynnal cyfres o sesiynau ymgynghori cyhoeddus lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu i lunio dyfodol canol tair tref: Bwcle, Treffynnon a Shotton.
Mae’r gweithgaredd ymgynghori sydd wedi’i gynllunio yn rhan o broses i ddatblygu saith ‘Cynllun Creu Lleoedd’ ar gyfer canol trefi yn y ddwy flynedd nesaf, a bydd y cyntaf o’r rhain yn dechrau’r mis hwn.
Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol ledled Cymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn i sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol i bob tref, yn amlinellu camau gweithredu a fyddai’n helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoedd a bodloni anghenion pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu'r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n amlach i gyflawni gwelliannau.
Bydd pobl leol sy’n byw neu’n gweithio ym Mwcle, Treffynnon a Shotton neu’n agos i’r lleoedd hyn, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am ganol eu trefi rhwng 23 Ionawr a 12 Chwefror 2023.
Cewch ragor o wybodaeth yn: https://siryfflint.gov.uk/Creulleoeddynsiryfflint.
Mewn ymateb i’r cyfle i bobl leol lunio’r cynlluniau ar gyfer eu trefi, dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:
“Yn yr un modd â llawer o drefi ledled y sir, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newid mewn arferion siopa pobl a’r pandemig byd-eang. Mae’n gyfle yn awr i adolygu sut gall canol ein trefi gael eu hadfywio, a nodi sut y gall pobl leol a’n heconomi leol elwa o fuddsoddiad a newid cadarnhaol yn y dyfodol.”
Ar ôl yr arolwg ar-lein, bydd cyfres o sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ym mhob tref. Dyma pryd fydd y sesiynau’n cael eu cynnal:
SHOTTON:
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023, 2pm - 4pm yng Nghanolfan Gymunedol Elmwood, Chester Road West, Shotton, CH5 1SE.
Dydd Iau 2 Mawrth 2023, 6pm - 8pm yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Rivertown, Chester Road West, Shotton, CH5 1BX.
Dydd Sadwrn 4 Mawrth 2023, 10am - 12pm yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Rivertown, Chester Road West, Shotton, CH5 1BX.
BWCLE:
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023, 2pm - 4pm yng Nghaffi Cyfle, 9 Ffordd Brunswick, Bwcle, CH7 2ED.
Dydd Iau 9 Mawrth 2023, 6pm - 8pm yn y Ganolfan Gymunedol, Jubilee Court, Bwcle, CH7 2DL.
Dydd Sadwrn 11 Mawrth 2023, 10am - 12pm yng Nghaffi Cyfle, 9 Ffordd Brunswick, Bwcle, CH7 2ED.
TREFFYNNON:
Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023, 2pm - 4pm yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Treffynnon.
Dydd Iau 16 Mawrth 2023, 6pm - 8pm yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, 34-44 Trinity Road, Maes Glas, CH8 7JY.
Dydd Sadwrn 18 Mawrth 2023, 10am - 12pm yng Nghanolfan Gymunedol Treffynnon, Moore Lane, Treffynnon, CH8 7DW.