Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfyngiadau cyflymder 20mya Bwcle - sesiynau gwybodaeth 

Published: 16/01/2023

20mph.jpgCyflwynir Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, yn 2023.    Golyga hyn y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn cael eu gostwng o 30mya i 20mya o fis Medi.  

Cyn y cyfnod o gyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, cafodd wyth cymuned eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol, gyda therfynau cyflymder yn cael eu cyflwyno rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mai 2022. Mae bron i 12 mis bellach ers eu cyflwyno ym Mwcle a’r cyffiniau.    

Ymwybodol o bryderon a godwyd yn lleol, trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi bod yn digwydd am rai misoedd ac mae’r Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu gydag adolygiad a deall unrhyw bryderon am ffyrdd penodol.

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar ystod o fesurau gyda Llywodraeth Cymru. 

  •  Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r cynllun a’r meini prawf eithriadau ar gyfer y prif ffyrdd prifwythiennol. 
  • Arolwg adborth ar-lein ar gyfer pob aelwyd o fewn y terfynau cyflymder 20mya. 
  • Ymgyrch ymgysylltu ac addysg gan yr heddlu. 
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth wyneb yn wyneb ar gyfer y gymuned leol. 

Cynhaliwyd arolwg i aelwydydd ar-lein. Derbyniodd 9,426 eiddo, sydd wedi’u lleoli o fewn ardaloedd y terfynau cyflymder 20mya, lythyr i gymryd rhan a chafwyd 2,712 ymateb.    

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, mae nifer o sesiynau gwybodaeth wedi’u trefnu bellach ar gyfer cymunedau yn ardal leol Bwcle, i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru a sut mae angen ei gyflwyno i ffyrdd lleol.   Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddarparu adborth. 

Bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol yn y sesiynau ac fe’u cynhelir trwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r sesiynau, bydd angen i drigolion rag-archebu eu lle ac mae dolen archebu ynghyd â dyddiadau ac amseroedd ar wefan y Cyngor.   

Gall trigolion sydd angen cymorth gydag archebu lle, ymweld â Chanolfan Gyswllt y Cyngor yn llyfrgell Bwcle.  

Bydd adborth a geir trwy’r sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i’r adborth a gafwyd trwy’r arolwg ar-lein a bydd yn helpu wrth gynnal adolygiad o ffyrdd lleol gan y Cyngor. Darperir yr adolygiad i Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflwyniad cenedlaethol 20mya.  Cyhoeddir y canlyniadau ar wefan y Cyngor hefyd, cyn diwedd mis Mawrth 2023.