Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Deulu Gronant - helpu’r amgylchedd
Published: 18/01/2023
Mae Canolfan Deulu Gronant sy’n rhan o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn mwynhau gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymuned leol. Dyma ambell stori galonogol i godi calon ar nosweithiau oer a thywyll!
Annog y gwenoliaid!
Y gaeaf hwn maen nhw wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar brosiect i gynnwys y gymuned ond hefyd i helpu ein bywyd gwyllt.
Mae Gronant yn ardal boblogaidd iawn ar gyfer gwenoliaid a gan fod y rhywogaeth dan fygythiad ac yn dirywio mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i’w helpu nhw. Dyma nhw’n edrych ar y lle gorau i osod lloches - man cysgodol, yn uchel i fyny ac yn wynebu’r gorllewin. Gosodwyd y lloches ym mis Rhagfyr.
Mae’r safle yn un delfrydol - i fyny’n uchel ac uwchben to fflat ac mewn lleoliad sy’n weladwy i’r plant o’r lleoliadau plant. Mae’r ganolfan hefyd eisiau cynnwys y plant mewn holiaduron i gofnodi gweithgaredd a’i fwydo yn ôl i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi darparu ffeiliau sain i’r plant eu chwarae yn y gwanwyn i annog y gwenoliaid i nythu yno.
Coeden ar gyfer y Jiwbilî
Mae’r Ganolfan wedi bod yn gartref i Sefydliad y Merched ers blynyddoedd. Dyma grwp rhagweithiol ac egnïol sy’n cadw’n brysur ac yn weithgar gyda phrosiectau a gweithgareddau gwahanol a diddorol.
O gwmpas cyfnod Jiwbilî platinwm y Frenhines fe ofynnodd y grwp os fyddai’n bosib plannu coeden ar y tir i dalu teyrnged i’r digwyddiad. Dyma nhw’n dewis coeden geirios sy’n blodeuo. Coeden ddelfrydol i fwynhau blodyn y gwanwyn.
Archebwyd y goeden ond nid oedd ar gael tan yr Hydref - amser plannu coed. Yn anffodus, bu’r Frenhines farw ym mis Medi. Ond penderfynwyd plannu coeden yr un fath ym mis Tachwedd gyda phawb yn ymgasglu i dalu teyrnged a dangos parch i’r Frenhines. Mynychodd y plant o’r lleoliadau plant hefyd a dyma nhw’n mwynhau cymryd rhan yn y plannu. Cafodd carreg ei gosod i nodi’r achlysur ac mae pawb yn edrych ymlaen rwan i weld y goeden yn blodeuo yn y gwanwyn.
Am fwy o wybodaeth ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, cysylltwch â fisf@flintshire.gov.uk, FIS Facebook page neu ffoniwch 01352 703500.