Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint

Published: 11/01/2023

Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint fel cynllun datblygu newydd adran weinyddol Sir y Fflint yn eu cyfarfod ar 17 Ionawr.   Bydd yr argymhelliad yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2023.

Mae gofyn i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’i adolygu’n rheolaidd. Mae’r cynllun hwn yn ffrwyth llafur oddeutu 8 mlynedd o waith i baratoi a mabwysiadu CDLl i Sir y Fflint.  Mae’n gam allweddol i’r Cyngor, ac yn gyfle i gymeradwyo fframwaith cynllunio strategol cyfredol â thystiolaeth lawn i hwyluso twf a datblygiad cadarnhaol ar draws y Sir, yn unol â statws Ardal Twf Cenedlaethol Sir y Fflint.

Cyflwynwyd y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd a thystiolaeth ategol i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer archwiliad annibynnol ym mis Medi 2019.   Yn ystod yr archwiliad, codwyd mater newydd sylweddol ar ôl i CNC gyflwyno targedau newydd mwy llym ar gyfer lefelau ffosffadau a ganiateir mewn Afonydd ACA a warchodir, ac yn achos y CDLl,  Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid.

Gweithiodd y Cyngor mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam i gynhyrchu Strategaeth Lleihau Ffosfforws yn Nalgylch Afon Dyfrdwy, y cyntaf o’i math.   Yn dilyn ystyried ac ymgynghori, mae’r Arolygwyr bellach wedi cyflwyno eu Hadroddiad terfynol i’r Cyngor ac mae’r Archwiliad wedi cau.  Ystyriwyd yn yr adroddiad bod y CDLl yn gadarn, ac yn amodol ar ei natur derfynol, y dylai’r cynllun gael ei fabwysiadu gan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“CDLl Sir y Fflint fydd y prif bolisi a strategaeth y bydd y Cyngor yn ei defnyddio i wneud penderfyniadau ar y cynigion datblygu i’r dyfodol.  Mae’n gynllun cadarn a chynaliadwy sy’n cynnwys gofyniad i ystyried y rhaglen ‘Creu Lleoedd’ ac yn cyflwyno dull cadarnhaol ar gyfer rheoli’r twf y bydd Sir y Fflint yn ei brofi i’r dyfodol.

“Mae’r polisïau a’r cynigion o fewn y CDLl yn mynd i’r afael ag angen y Sir am gartrefi, swyddi, isadeiledd a chyfleusterau cymunedol newydd i gefnogi twf economaidd a gwella safonau byw.

“Caiff polisïau sy’n hyrwyddo datblygiad eu gosod ochr yn ochr â pholisïau sy’n ei gwneud yn ofynnol i geisiadau barchu, hyrwyddo a diogelu treftadaeth ddiwylliannol y Sir, tirweddau pwysig, ac amgylcheddau sensitif.   Mae’n anochel bod cynllunio ar gyfer twf, yn gymesur â dyheadau Ardal Dwf Genedlaethol, yn golygu gwneud penderfyniadau anodd ynghylch rhyddhau tir ar gyfer datblygu, a bydd ardaloedd yn siwr o weld newid. 

“Fodd bynnag, mae’r CDLl yn darparu cyfle i reoli’r newid hwn yn llwyddiannus a sicrhau datblygiadau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod y llefydd a gaiff eu cyflawni ar draws Sir y Fflint yn darparu etifeddiaeth gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”