Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a Chynllun Busnes

Published: 11/01/2023

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a chrynodeb o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 17 Ionawr.

Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys atgyweirio a chynnal cartrefi’r Cyngor, gwaith gwella gan gynnwys gwelliant amgylcheddol, rheoli cymdogaeth gan gynnwys mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gofalu am ystâd, casglu incwm a chyfranogiad cwsmeriaid ar gyfer ei 7,300 o gartrefi Cyngor, hefyd mae'n cynnwys rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol.

Ym mis Rhagfyr 2019, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru’r polisi rhent diwygiedig ar gyfer cyfnod 5 mlynedd yn dechrau ym mis Ebrill 2020/21 yn nodi ymgodiad rhent blynyddol o hyd at Fynegai Prisiau Defnyddwyr +1% gan ddefnyddio lefel Mynegai Prisiau Defnyddwyr o’r mis Medi blaenorol bob blwyddyn.  Mae’r polisi hwn wedi cael ei ddylunio i sicrhau fod fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid wrth wraidd ein hystyriaethau ac wrth osod yr ymgodiad rhent, dylai landlordiaid ystyried gwerth am arian a’r gost lawn o fyw yn yr eiddo fel rhan o’u rhesymeg dros osod rhent.

Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym Medi 2022 oedd 10.1%. Mae’r polisi rhent yn datgan y dylai’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ddisgyn tu allan i ystod 0% i 3%, bydd Gweinidog Cymru sydd â chyfrifoldeb dros dai yn penderfynu’r newid priodol i lefelau rhent sy’n gymwys am y flwyddyn honno’n unig. Mae’r Gweinidog wedi gosod terfyn uchaf y gall rhent cymdeithasol gynyddu i 6.5% o Ebrill 2023. 

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio Sir y Fflint:

“Rydym yn buddsoddi yn ein stoc dai ac yn parhau i adeiladu cartrefi newydd i helpu fynd i’r afael â’r argyfwng tai presennol.  Mae dros £29.4 miliwn wedi cael ei adeiladu i mewn i’n rhaglen gwella tai’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, ac mae hyn yn cynnwys rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i’r rhai gydag anableddau a gwaith arbed ynni.

“Yn ogystal, mae £7.668 miliwn wedi cael ei adeiladu i mewn i 2023/24 ar gyfer tai Cyngor newydd. Ar hyn o bryd mae pum cynllun ar y gweill yn y rhaglen ar gyfer 2023/24 a fydd yn darparu 52 o eiddo ychwanegol i’r stoc dai cymdeithasol presennol. Mae’r cynllun busnes hefyd yn rhagweld 51 o unedau ychwanegol yn 2024/25 a 50 uned y flwyddyn ar ôl hynny, tan 2030/31.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael:

“Gan ein bod ni wedi ymrwymo i gydbwyso fforddiadwyedd rhent ar gyfer tenantiaid gyda chynnal a chadw ein darpariaeth gwasanaeth a safon ein heiddo, bydd ymgodiad cyffredinol ar gyfer rhent o 5% i holl denantiaid. Mae hyn yn is na’r terfyn uchaf o 6.5% a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Mae’n bwysig nodi fod 7.1% o’n holl denantiaid yn gymwys am fudd-daliadau tai neu gymorth credyd cynhwysol tuag at eu rhent a thaliadau gwasanaeth.

“Mae polisi rhent a thâl gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol gyflawni’r gost lawn.  Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio tuag at hyn.  Fodd bynnag, cafodd taliadau gwasanaeth eu rhewi yn 2021/22 er mwyn helpu tenantiaid oedd yn profi anhawster ariannol o ganlyniad i Covid-19.  Cynigwyd, fel rhan o’r cynllun busnes hwn, fod taliadau gwasanaeth yn parhau i gael eu rhewi yn 2023/24.”

Cynigiwyd cynyddu rhent garej o 51c yr wythnos i £10.74 yr wythnos (yn seiliedig ar 52 wythnos). Cynigiwyd cynyddu rhent plot garej o 8c yr wythnos gan ei wneud yn £1.74 yr wythnos.

Mae’r cyd-destun ar gyfer gosod y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai eleni yn cynnwys:

  • Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau
  • Parhau i yrru er mwyn sicrhau bod holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian.
  • Sicrhau fod strategaeth rheoli trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca parhaus a newydd y Cyfrif Refeniw Tai.
  • Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 4% o refeniw dros ben dros wariant
  • Gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r gofyn i fenthyca er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru
  • Darparu tai Cyngor newydd
  • Ysgogiad parhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac yn archwilio datgarboneiddio
  • Darpariaeth o gyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru