Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynd adra’n saff y Nadolig yma
Published: 19/12/2022
Dros y Nadolig, cyn i chi fynd allan i ddathlu, gwnewch yn siwr eich bod chi’n trefnu eich siwrne adref drwy gysylltu â gweithredwr cerbydau hurio preifat trwyddedig.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn trwyddedu dau fath o ‘dacsi’. Y math cyntaf ydi cerbyd hacni, sy’n edrych yn debyg i’r tacsis du traddodiadol. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r cerbydau trwyddedig yn Sir y Fflint yn gerbydau hurio preifat, sydd angen eu harchebu drwy weithredwr cerbydau hurio preifat trwyddedig. Bydd gan y cerbydau yma blât trwydded ar y cefn a sticer ar y ffenest flaen. Bydd gan y gyrrwr hefyd fathodyn trwydded.
Cyn cael trwydded mae’n rhaid i’r gyrwyr gwblhau cyfres o wiriadau manwl. Peidiwch â chael eich temtio i ofyn am ‘lifft’ ar y cyfryngau cymdeithasol gan yrwyr didrwydded sydd heb gael eu gwirio, ac efallai heb yswiriant i gludo teithwyr sy’n talu.
Fedrwch chi ddim stopio cerbyd hurio preifat ar y stryd. Mae’n rhaid i chi archebu un drwy weithredwr hurio preifat trwyddedig. Cofiwch archebu ymlaen llaw a gwneud yn siwr mai’r cerbyd rydych chi’n mynd i mewn iddo ydi’r cerbyd rydych chi wedi’i archebu.
Mae rhestr o weithredwyr cerbydau hurio preifat trwyddedig Cyngor Sir y Fflint ar gael yma.