Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwirfoddolwyr Vimto y Fflint
Published: 29/11/2022
Fe ddaeth Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint, gwirfoddolwyr corfforaethol Nichols plc a Chyngor Tref y Fflint ynghyd yr wythnos ddiwethaf i dacluso’r coetiroedd, llwybrau troed a Llwybr Arfordir Cymru ger Castell y Fflint.
Cafodd coed marw a choed peryglus eu clirio a phlannwyd coed cyll, yw a choed castan ifanc yn eu lle ac agorwyd y golygfeydd ar draws yr aber wrth i brysgwydd cwyros gael eu tocio i sicrhau y gall pawb fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o amgylch Castell y Fflint.
Ychwanegwyd tair derwen goch i amrywiaeth y coetir i goffáu’r diwrnod a oedd yn llwyddiant mawr er gwaetha’r rhybuddion melyn o ran y tywydd. Wedi eu noddi gan Gyngor Tref y Fflint, darparodd y Ceidwaid Arfordirol offer, lloches a choed a daeth Vimto â 17 o wirfoddolwyr yma gan roi dros 85 awr o waith a oedd yn gyfystyr â bron i 12 diwrnod o amser Ceidwad.
Cafodd pawb ginio o bysgod a sglodion, wedi ei ddarparu gan y siop sglodion leol. Hefyd roedd yna gacen pen-blwydd a chafodd ei olchi i lawr gyda Vimto diderfyn, a oedd yn rhoi digon o egni i bawb yn barod am brynhawn prysur yn creu pentyrrau cynefinoedd bywyd gwyllt a gwrychoedd mawr ar gyfer darparu lloches i ffwng, mamaliaid ac infertebratau yn y gaeaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o ddiwrnod y gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yn y Fflint. Roeddwn yn falch o glywed fod pobl wedi cael amser da, er gwaetha’r tywydd. Darparwyd lloches gan goed a choetiroedd blaendraeth y Fflint a’r cysgod a gynigwyd gan waliau Castell y Fflint, a chafwyd digon o ddiodydd poeth, ac fe sicrhaodd y criw gwych o dîm marchnata Vimto fod y diwrnod yn un cynhyrchiol a llawn hwyl.”
Canmolodd y Cyfarwyddwr Marchnata, Emma Hunt, y Ceidwaid Arfordirol am y diwrnod a dywedodd:
“Yn Nichols rydym i gyd yn cael ein hannog i gymryd rhan yn ein menter Diwrnod i Wneud Gwahaniaeth, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol. Mae gan y Fflint flaendraeth mor wych ac rydym yn falch o wneud ein rhan ar gyfer bywyd gwyllt, pobl a chymuned y Fflint a’r rhai hynny sy’n defnyddio Llwybr Arfordir Cymru.”
Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint a Maer y Fflint, Michelle Perfect:
“Anhygoel, canlyniad gwych a hynny mewn tywydd eithaf gwael. Fe fydd y coetir a’r bywyd gwyllt yn amlwg yn elwa o’r holl waith. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwaid Arfordirol a thîm Vimto am ddod allan a dal ati hyd yn oed ar ôl y pysgod a’r sglodion a’r gacen!”
Dylai unrhyw grwpiau corfforaethol sydd eisiau diwrnod tîm gysylltu â’r Ceidwaid ar 07711438127 neu countryside@flintshire.gov.uk