Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru
Published: 18/11/2022
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd ar gyfer sgwrs bwysig yn ymwneud â newid hinsawdd.
Bydd digwyddiad eleni’n cael ei gynnal yn syth ar ôl COP27 a bydd yn para o ddydd Llun 21 Tachwedd tan ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos.
Dydd Llun 21 Tachwedd 10 - 12pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Gwepra!
Dydd Mawrth 22 Tachwedd - Lansiad ein e-newyddlen a thudalennau gwe Newid Hinsawdd
Dydd Mercher 23 Tachwedd 10 - 12pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Gwepra!
2 - 4pm – Sesiwn galw heibio i gael cyngor am arbed ynni gan ein tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Woodside Close, Ewlo
Dydd Iau 24 Tachwedd 10 - 1pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Dydd Gwener 25 Tachwedd 10 - 12pm – sesiwn galw heibio i gael cyngor am arbed ynni gan ein tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Canolfan Gymunedol Elmwood, Shotton.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:
“Cadarnhawyd Strategaeth Newid Hinsawdd Sir y Fflint yn gynharach eleni ac rydym ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau Cymru Sero Net erbyn 2050 yn ogystal â chyflawni ein nodau lles ein hunain.
“Gan fod cysylltiad annatod rhwng newid hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn ni hefyd yn cyflawni’n unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: climatechange@flintshire.gov.uk.