Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rheoli Traffig ar Gylchfan A548/Parkway
Published: 07/06/2018
Rheoli Traffig ar Gylchfan A548/Parkway
Er mwyn ymateb i geisiadau gan fusnesau, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn
treialu system rheoli traffig dros dro dros y 2 fis diwethaf i helpu i leihau
tagfeydd ym Mharth 2 Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Yn ystod y cyfnod yma, mae llif y traffig a thagfeydd wedi cael eu monitro yn
ystod oriau prysuraf y dydd ac mae’r canlyniadau wedi dangos effaith
gadarnhaol.
Fe fydd y system rheoli traffig a gafodd ei dreialu yn cael ei dynnu ddydd Sul
10 Mehefin ac mae’r Cyngor Sir bellach yn ystyried gosod seilwaith parhaol a
allai gynnwys goleuadau traffig ar gylchfan yr A548.