Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg
Published: 05/07/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dathlu llwyddiant athrawon a
chymhorthwyr ystafell ddosbarth sydd wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg ail iaith yn
ystod y flwyddyn.
Mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Beaufort Park, roedd athrawon a
chymhorthwyr ystafell ddosbarth o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar draws y
Sir yn derbyn gwobrau a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y
Cynghorydd Ian Roberts, a’r Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid dros dro, Claire
Homard.
Mae’r hyfforddiant wedi’i roi gan Dîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint ac fe
wnaeth dros 80 o athrawon a chymhorthwyr addysgu gyfranogi. Mae’r hyfforddiant
i aelodau o staff ar gyrsiau Sabothol wedi’i roi gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol
Bangor.
Nod y tîm yw codi safonau’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd yn Sir y Fflint ac i
gyfrannu at Gynllun Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Mae’n wych gweld cymaint o’n gweithwyr yn awyddus i wella eu sgiliau Iaith
Gymraeg. Bydd hyn o fudd mawr i atgyfnerthu ymrwymiad cryf Sir y Fflint ir
Gymraeg. Trwy ein Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg a gymeradwywyd yn ddiweddar,
a’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oed i
wella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r iaith yn eu
bywyd bob dydd.
“Mae hefyd yn anfon neges glir, yn fewnol ac yn allanol, bod yr iaith Gymraeg
yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.”
Dywedodd Rhian Roberts, Rheolwr Tîm Ymgynghorol y Gymraeg yn Sir y Fflint:
“Mae hyfforddi staff wedi bod yn uchel ar raglen y tîm ers sawl blwyddyn ac
mae’n parhau’n elfen hanfodol o’n gwaith. Mae’n bwysig iawn fod gan ein
gweithlu’r sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwaith priodol i oed a digon
heriol i ddisgyblion. Byddwn yn parhau i weithio ar y flaenoriaeth hon i
sicrhau y gall Sir y Fflint gwrdd â heriau targed Llywodraeth Cymru i greu
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”