Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Croeso Cynnes yn Wepre Court
Published: 29/05/2018
Mae nifer o aelwydydd yn Wepre Court, Cei Connah nawr yn mwynhau buddion ystod
o gynlluniau arbed ynni newydd sydd wedi eu gosod yn eu heiddo’n ddiweddar.
Mae Cyngor Sir Y Fflint, mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, wedi rheoli
trefniadau gosod o nifer o fesurau yn cynnwys: cysylltiad nwy newydd i eiddo
gyda chefnogaeth ‘Wales and West Utilities’, gosod insiwleiddiad atig gyda
chefnogaeth Wall-Lag a gosod boeler nwy a system gwres canolog gyda chefnogaeth
Cronfa Cartrefi Clyd, Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) a Cyngor Sir Y Fflint.
Bydd 10 aelwyd sy’n cynnwys tenantiaid cyngor sir, tenantiaid y sector breifat
a pherchnogion preswyl yn elwa ac mae’r preswylwyr wrth eu boddau o gael
cartref cynnes yn ogystal ag arbedion posib i’w biliau tanwydd.
Mae Mr. Howard Shirt, o Wepre Court, yn hynod o hapus gyda’r gwaith a wnaed a
dywedodd;
“Mae’r gwahaniaeth a wnaed tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau oedd gen i.”
Roedd Mr. Shirt wedi plesio gydar ffordd y cafodd yr holl broses o osod y
gwaith ei wneud a’r gefnogaeth a’r arweiniad oedd ar gael i breswylwyr.
Y perchnogion hyn oedd ymysg y cyntaf i elwa o’r gefnogaeth gan raglen Cronfa
Cartrefi Clyd syn cael ei reoli gan Ddatrysiadau Gwres Fforddiadwy, Cwmni
Buddiannau Cymunedol, a lansiwyd yn Sir y Fflint ym mis Ionawr 2018.
Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrysiadau Gwres Fforddiadwy:
“Mae datrys materion yn ymwneud â Thlodi Tanwydd yn parhau i herio nifer o’n
budd-ddeiliaid ac mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn yn barod yn rhoi
tystiolaeth o sut fydd y Gronfa Cartrefi Clyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
i filoedd o gartrefi ar draws y wlad.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Is-Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer
Tai;
“Mae’n bleser gweld sut mae Cyngor Sir Y Fflint, a’i bartneriaid, yn gwella
cartrefi pobl ac wedi gwella bywydau preswylwyr Wepre Court. Gobeithiwn
gefnogi llawer mwy o aelwydydd trwy’r Gronfa Cartrefi Clyd dros y 3 mlynedd
nesaf.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Cartrefi Clyd ac i ddarganfod os ydych chi’n
gymwys ar gyfer cefnogaeth cysylltwch â: 0800 954 0658 neu
healthyhomeshp@flintshire.gov.uk