Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofyn i’r gymuned helpu i leddfu pwysau parcio ar Barc Gwledig
Published: 08/06/2018
Gyda’r haf ar droed, mae pobl allan yn mwynhau’r awyr agored.
Parc Gwledig Wepre yng Nghei Connah yw un o’r cyrchfannau arbennig hynny lle
mae pobl yn dod i gerdded ar hyd glan yr afon a thrwy’r coetir, mwynhau’r
golygfeydd a’r bywyd gwyllt ac ymweld â Chastell Ewlo, yn enwedig ar ddiwrnodau
braf a chynnes.
Mae nifer ymwelwyr i’r Parc wedi cynyddu’n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf,
sy’n golygu bod ardaloedd parcio dynodedig a mannau parcio ceir ychwanegol yn
aml dan bwysau mawr ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Meddai’r Cyng Carolyn Thomas;
“Mae Parc Gwledig Wepre yn lle pwysig ir gymuned leol a thu hwnt ac maen nhw
wrth eu bodd ag ef, ac maen hyfryd bod cynifer o bobl a grwpiau defnyddwyr yn
mwynhau Parc Gwledig Wepre.
“Os bydd y meysydd parcio yn llawn, gofynnwn i ymwelwyr ystyried preswylwyr
lleol a diogelwch y ffyrdd drwy barcio yn gyfrifol yn hen Safle Maes Parcio
Somerfield ar waelod Wepre Drive, tua hanner milltir i ffwrdd, neu ystyried
cerdded neu feicio.”
“Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos gwerth mannau gwyrdd i iechyd a lles
pobl, rydym am i bobl allu mwynhau’r manteision hyn, ond heb gael effaith
negyddol ar eraill. Mae’r Cyngor yn edrych ar opsiynau tymor byr, tymor canolig
a thymor hir i reoli pwysau parcio ym Mharc Gwledig Wepre yn y dyfodol, er budd
preswylwyr lleol ac ymwelwyr.”