Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yr Hen Gapel, Chester Road, Yr Wyddgrug
Published: 24/05/2018
Byddwn yn cau lôn dros dro o ddydd Mawrth 22 Mai 2018 yn Chester Street, Yr
Wyddgrug.
Mae angen cau’r lôn dros dro gan fod sgaffaldiau strwythurol wedi’u codi o
amgylch adeilad Yr Hen Gapel er mwyn ei wneud yn ddiogel.
Gall draffig gael mynediad i ganol tref Yr Wyddgrug gan ddefnyddio Chester
Street. Fodd bynnag, nid oes posib gadael canol y dref y ffordd hon ac mae
traffig yn cael ei wyro i ffyrdd eraill.
Mae cau’r lôn dros dro yn hanfodol er mwyn sicrhau mynediad diogel i gerddwyr
tra bo’r sgaffaldiau yn eu lle.
Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond, gan nad oedd unrhyw
ffordd arall o godi’r sgaffaldiau, mae diogelwch y cyhoedd yn hanfodol.
Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw waith sydd ei angen yn cael ei gyflawni yn
effeithlon ac effeithiol ac mor gyflym â phosib.