Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd
Published: 17/05/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyo mabwysiadu
Canllawiau Cynllunio Atodol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ffurfiol
pan fydd yn cyfarfod ar Ddydd Mawrth 22 Mai.
Gofynnir ir Cabinet wneud hyn fel y bydd pwyslais yn cael ei roi arnynt fel
ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau cynllunio, ceisiadau ac
apeliadau perthnasol.
Mae’r CCA wedi’u paratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a
Wrecsam ac maent wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol.
Maent yn cael eu hargymell ar gyfer eu mabwysiadu gan bob un o’r tri Awdurdod
Cynllunio Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
“Mae’r canllawiau wedi eu drafftio fel eu bod yn hawdd iw darllen, gyda
lluniau a darluniau addas, er hynny maent yn parhau i ddarparu canllawiau
cadarn. Y bwriad yw i gynnal a gwella ansawdd datblygiad yn ac o amgylch yr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac i sicrhau fod yr Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol yn ystyriaeth ddylunio yn y cyfnodau cynharaf o ddylunio a
datblygu.”