Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu (TRIP)
Published: 11/05/2018
Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint
adolygu strategaeth adfywio rhanbarthol ddrafft ar gyfer cyflwyno i Llywodraeth
Cymru pan y byddant yn cyfarfod ddydd Mercher 16 Mai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu
(TRI) i ddarparu nawdd i brosiectau adfywio ar draws Cymru. Bydd yn weithredol
am dair blynedd gan ddechrau o 1 Ebrill ac yn disodlir cynllun Llefydd
Llewyrchus Llawn Addewid a ddaeth i ben yn 2017.
Gweithredwyd agwedd gydweithiol ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a
blaenoriaethu buddsoddiad ac i grynhoi adnoddau cyfyngedig i ardaloedd gyda
blaenoriaeth i adfywio.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae cydweithio fel rhanbarth yn gwneud synnwyr gan fod gennym grwpiau
cydweithredol sefydledig yn barod. Bydd Grwp Swyddogion Adfywio Gogledd Cymru
yn gofalu am reoli dyddiol TRIP a bydd yn cael ei oruchwylio gan Grwp Rheolir
Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cytunwyd y dylid cael
strategaeth adfywio Gogledd Cymru sy’n gosod gweledigaeth ac amcanion ar gyfer
adfywio tan 2035.”
Mae strategaeth ddrafft adfywio Gogledd Cymru, sy’n nodi’r 12 tref blaenoriaeth
yn y rhanbarth, yn cynnwys Shotton a Threffynnon, yn cynnig y blaenoriaethau
canlynol:
· Lleihau anghydraddoldeb
· Cynyddu swyddi
· Moderneiddio canol trefi
· Gwella’r cynnig tai
· Cryfhau economi’r ymwelwyr
· Diogelu’r economi gwledig
· Gwella iechyd y bobl leol
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi dyraniad tybiedig o £22m dros dair blynedd ar
gyfer Gogledd Cymru, hanner y swm a ddyrannwyd i Llefydd Llewyrchus Llawn
Addewid.
Mae’r fframwaith buddsoddiad drafft yn cynnig pedwar ardal i’w hadfywio yn
ogystal â thri phrosiect rhanbarthol sy’n gymwys i bob ardal ac yn cynnwys tair
blynedd y nawdd TRI sydd ar gael ar hyn o bryd.
Pan gaiff y rhaglen TRI ei hymestyn tu hwnt ir cyfnod tair blynedd bresennol
ac wrth i nawdd arall gael ei ryddhau, bydd angen i’r penderfyniadau dyrannu
ystyried yr ardaloedd eraill i sicrhau eu bod i gyd yn derbyn y gefnogaeth
angenrheidiol.
Aeth y Cynghorydd Butler yn ei flaen:
“Er nad yw ddau o drefi Sir y Fflint, Treffynnon a Shotton, yn ymddangos yn y
pedwar ardal adfywio uchaf, mae dau brosiect adfywio rhanbarthol y gallant fod
yn gymwys iddynt – adnewyddu tai yn bennaf, a fydd yn caniatáu darparu camau
pellach i’r cynlluniau atgyweirio grwp, ac yn ail, adeiladau pwysig, a fydd yn
caniatáu adfywiad adeiladau allweddol i ganol trefi.
“Byddwn yn chwilio am gyllid datblygu i nodi ac asesu adeiladau addas i’w
hadfywio. Gall hyn gyfrannu at ddarpariaeth Strategaeth Treftadaeth y Cyngor.”