Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi mwy o raglenni gwella priffyrdd
Published: 01/05/2018
Ar ôl rhyddhau rhaglen ail-wynebu £1miliwn+ yr wythnos ddiwethaf, mae dwy
raglen arall ar gyfer gwella ffyrdd wedi eu cadarnhau.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gweithio ar raglen Wyneb Priffyrdd yn
Mehefin/Gorffennaf fydd yn helpu i wella cyflwr ffyrdd mwyaf gwledig y Sir.
Bydd y rhaglen sy’n werth tua £0.35 miliwn yn gweld gwelliant i bron 20 o
ffyrdd gwledig yn bennaf ar draws Sir y Fflint. Bydd rhaglen o drwsio
cerbytffyrdd hefyd yn dechrau cyn y gwaith trin wyneb ffyrdd yn Mehefin.
Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cynnal tri chynllun mawr gwella priffyrdd ar rai
o’r ffyrdd prysuraf yn y Sir, er mwyn gwella’r ffyrdd yn dilyn y difrod a
achoswyd gan dywydd gwael y gaeaf. Bydd y cynlluniau prif ffyrdd hyn yn
cynnwys ailadeiladu wyneb y ffordd, trwsio cyrbau a throedffyrdd a newid y
marciau ffordd presennol. Bydd goleuadau stryd hefyd yn cael eu diweddaru ar y
ffyrdd os bydd angen.
Mae’r gwaith sy’n werth £0.5 miliwn i gyd wedi’i drefnu ar gyfer y lleoliadau
canlynol:
A 549 Gallt Wylfa yn Mynydd Isa
B 5129 Ffordd Caer yn Sandycroft
A 548 Ffordd Caer yn y Fflint
Mae’r ddau brosiect yma yn cael ei hariannu o gyllideb cynnal a chadw priffyrdd
y Cyngor ei hun gyda chefnogaeth arian grant gan Lywodraeth Cymru sy’n dod â
chyfanswm lefel buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol yn agos at £2 filiwn
yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Bydd prosiect terfynol i wneud gwaith atgyweirio priffyrdd y rhwydwaith ffyrdd
gwledig yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod yn dilyn archwiliadau a
gynhelir i asesu cyflwr holl ffyrdd gan swyddogion yn Sir y Fflint. Mae’r
archwiliadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael y
sylw maent ei angen.
Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor ddydd Llun 30 Ebrill
2018 a bwriedir i’r holl waith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2018.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi dau brosiect atgyweirio priffyrdd arall fydd
o fudd i’r holl gymunedau yn y Sir. Bydd y prosiectau’n helpu i wella rhai o
goridorau ffyrdd o bwys strategol sy’n allweddol i fywydau bob dydd llawer o
drigolion a helpu i wella rhai o’n ffyrdd a lonydd gwledig sydd yr un mor
bwysig i’r trigolion hynny sy’n byw yn yr ardaloedd hyn. Mae pedwar criw yn
parhau i lenwi tyllau yn y ffyrdd ledled y Sir.”