Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Melrose, Shotton
Published: 26/04/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau a’i raglen o adeiladu cartrefi Cyngor newydd
i breswylwyr lleol.
Yn ddiweddar, gwnaeth yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Bernie Attridge,
gyfarfod y cynghorydd lleol, y Cynghorydd Ron Davies yn safle adeiladu naw
cartref Cyngor newydd ar safle hen Ganolfan Melrose yn Shotton fel rhan o
Raglen Tai ac Adnewyddu Strategol (SHARP) blaenllaw y Cyngor). Mae SHARP
eisoes wedi darparu cartrefi Cyngor newydd yng Nghei Connah, y Fflint, yr
Wyddgrug a Choed-Llai.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Mae’r ailddatblygiad hwn yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor. Roedd yr
adeilad wedi dod yn darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
ar ôl iddo gau, felly cafodd ei ddymchwel y llynedd. Rydym yn ailddatblygu’r
safle nawr drwy adeiladu pum ty 2 ystafell wely a phedwar rhandy 1 a 2 ystafell
wely.
“Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn parhau i adeiladu cartrefi newydd o safon i’n
preswylwyr.”
Dywedodd Cynghorydd Ron Davies:
“Rwyf wrth fy modd bod y datblygiad hwn yn digwydd yn fy ward. Bydd hyn yn dod
â gwelliannau da i’r ardal ochr yn ochr â’r holl welliannau tai Cyngor sy’n
digwydd ar hyn o bryd. Rhaid i mi ddweud bod ein contractwyr yn gwneud gwaith
gwych.”
Mae’r cartrefi Cyngor newydd yn cael eu hadeiladu gan bartner y Cyngor, Wates
Construction North.