Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Ffair Swyddi
Published: 23/04/2018
Mynychodd dros 500 o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant a
gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Dyma’r digwyddiad cyntaf i’w redeg gan y tîm Cymunedau ar Waith a Mwy sydd
newydd ei sefydlu. Mae’r tîm wedi tyfu a datblygu or tîm Cymunedau Yn Gyntaf
gwreiddiol, fu’n gyfrifol am ddiogelu nifer o gyfleoedd swyddi a hyfforddi i
bobl leol drwy ei gyfnod o 15 mlynedd mewn bodolaeth.
Roedd y digwyddiad hwn wedi ei anelu at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am
waith ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd llwyddiannus arall rhwng Cymunedau ar
Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.
Cefnogwyd y digwyddiad gan 20 darparwr a 52 cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi
gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. Mae adborth darparwyr (sefydliadau
addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli
ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na’r
llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un. Ac oherwydd safon
uchel y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld â nhw yn y fan a’r
lle.
Yn ogystal â gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd â
chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau
iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
“Unwaith eto, roedd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn
rhoi cyfle i’r mynychwyr gwrdd â chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau
cymorth. Mae cyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod y digwyddiad wedi bod yn
brofiad cadarnhaol iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod busnesau yn denu ac yn
recriwtio’r bobl iawn ar gyfer eu swyddi. Mae digwyddiadau fel yr un yma yn
gyfle iddyn nhw wneud hynny.”