Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Hyrwyddor Iaith Gymraeg
Published: 19/04/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth pum mlynedd
ddrafft i Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg cyn ymgynghori’n ehangach a chymeradwyo’r
broses ymgynghori pan fydd yn cyfarfod ar 24 Ebrill.
Mae Safon y Gymraeg 145 yn ei gwneud yn ofynnol ir Cyngor baratoi
Strategaeth Hyrwyddo pum mlynedd a’i chyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’r
Strategaeth angen cynnwys targed ar gyfer cynyddu neu gynnal y nifer o
siaradwyr Cymraeg.
Nod y Strategaeth ddrafft yw: “hybu, cefnogi a diogelu’r iaith Gymraeg er budd
cenedlaethau presennol a’r dyfodol. Byddwn yn cefnogi ac yn cynyddu’r lefel
bresennol o siaradwyr Cymraeg, o 13.2% (19,343 o bobl) yn y sir i 13.6% (20,000
o bobl) yn ystod y cyfnod hwn. Ein nod yn y tymor hirach, ar ôl 2021 yw cynyddu
nifer y siaradwyr Cymraeg gan greu sir ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn rhan
naturiol o fywyd bob dydd.”
Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg a bydd y Strategaeth hon yn
cefnogi mentrau eraill sydd eisoes yn bodoli gan gynnwys:
? Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg y Cyngor sy’n anelu i gynyddu’r nifer
o ddysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.
? Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg o fewn Iechyd a Gofal
Cymdeithasol “Mwy na Geiriau” a weithredir yn llwyddiannus o fewn Gwasanaethau
Cymdeithasol.
? Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yng
Nghymru erbyn 2050.
Bydd Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Lles y
Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith
Gymraeg pum mlynedd hon. Mae gennym eisoes bolisi ar gyfer y Gymraeg yn y
gweithle i sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu
nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio’r
Gymraeg yn y gwaith.”
“Bydd gweithredu’r Strategaeth hon yn ein cefnogi i ddatblygu gwasanaethau
dwyieithog. Mae hefyd yn anfon neges glir, yn fewnol ac yn allanol, bod yr
iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.”
Cynhelir y broses ymgynghori ar Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn ystod
Mai 2018 a bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn
ddiweddarach yn y flwyddyn.