Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Breswylydd Sir y Fflint
Published: 18/04/2018
Gwahoddodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, breswylydd
lleol i Neuadd y Sir yn ddiweddar i ddathlu cyflawniad arbennig.
Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Sheila Delahoy o’r Wyddgrug am ei
gwaith gwirfoddol dros gyfnod o 25 mlynedd.
Mae Mrs Delahoy wedi gweithio’n anhunanol i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser
y DU a’r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig gan godi oddeutu £33,000. Ynghyd â’i
gwr, John, dechreuodd godi arian drwy gynnal boreau coffi yn ei chartref cyn
symud ymlaen i gynnal digwyddiadau yn ei gardd.
Dechreuodd godi arian ym 1984 ar gyfer ffeibrosis systig wedi i’w nith a’i
merch fedydd, Bernice Banner, derbyn diagnosis o’r cyflwr cronig hwn. Bu farw
yn 2003.
Ym 1988, cafodd Mrs Delahoy ddiagnosis o ganser y fron a derbyniodd driniaeth
lwyddiannus.