Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tai cyngor newydd Heol y Goron, Coed-llai
Published: 23/03/2018
Mae’r pum ty cyngor newydd bellach wedi eu trosglwyddo i’r tenantiaid.
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Aaron Shotton, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod
Cabinet Tai, y Cyng. Bernie Attridge a’r Aelod Lleol, y Cyng. Ray Hughes wedi
bod o gwmpas y tai newydd.
Roedd yr hen safle garejis yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd hynnyn
cael effaith andwyol ar y trigolion lleol.
Mae’r pum ty wedi eu gosod i bobl leol drwy Bolisi Gosod Lleol ac yn rhan o
Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o dai cymdeithasol
a fforddiadwy yn Sir y Fflint.
Meddai’r Cyng. Shotton:
“Rwyf yn falch iawn bod y Cyngor yn parhau i gadw at ei addewid i ddarparu tai
fforddiadwy o safon uchel er mwyn galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol.
Mae’r tenantiaid y bu i ni gwrdd â nhw wrth eu bodd gyda’u cartrefi newydd.”
Meddai’r Cyng. Attridge:
“Mae’r datblygiad hwn yn adeiladu ar lwyddiant safleoedd eraill yng Nghei
Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Shotton. Fel Cyngor, rydym ni wedi ymrwymo i
estyn Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor i bob rhan o Sir y Fflint fel
bod pob cymuned yn elwa ar gartrefi newydd o safon, sydd hefyd yn creu swyddi a
gwaith i fusnesau lleol.”
Meddai’r Cyng. Ray Hughes:
“Roedd yr hen garejis yn edrych yn ofnadwy ac yn achosi problemau
gwrthgymdeithasol i drigolion lleol. Mae’r datblygiad newydd wedi trawsnewid y
safle yn ogystal â galluogi teuluoedd ifanc i barhau i fyw yng Nghoed-llai a
mynd â’u plant i’r ysgol gynradd leol.”