Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sioe Ffasiwn Wanwyn y Cadeirydd
Published: 10/04/2018
Nos Wener, 20 Ebrill 2018, bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Brian
Lloyd, a’i gonsort, Mrs Jean Lloyd, yn cynnal sioe ffasiwn at achosion da yng
Nghlwb Cyn-Filwyr yr Wyddgrug a’r Cylch ar Ffordd Wrecsam, yr Wyddgrug.
Diben y noson yw codi arian ar gyfer tair elusen y Cadeirydd, sef Hosbis Claire
House, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru.
Cefnogir y sioe gan Simmi Womenswear, yr Wyddgrug, a fydd yn gwerthu dillad,
bagiau, sgarffiau a gemwaith ar y noson.
Mae’r noson yn dechrau am 7pm ac yn costio £3.
Meddai’r Cyng. Lloyd:
“Hoffwn annog pawb i ddod draw ir sioe ac ymuno â ni ar gyfer noson llawn
hwyl! Mi fydd hon yn ffordd wych i gefnogi fy elusennau. Os hoffech chi brynu
tocynnau, gallwch gysylltu â mi neu Jean ar 07734 579898, Lesley neu Karen ar
01352 702151 neu fe allwch chi fynd i Simmi Womenswear, Swyddfeydd y Cyngor
Tref, Vaughan Davies neu Bargain Booze.”