Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Aura
Published: 21/03/2018
Cytunodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Gynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd
Aura ar gyfer 2018/19 a chytunwyd i ryddhau cyfanswm o £3.773 miliwn o gyllid
refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (Aura) ar gyfer 2018/19.
Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura a gyflwynodd yr adroddiad i’r
Cabinet:
“Mae Aura mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, wedi gwneud cynnydd
cadarnhaol iawn yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu. Rydym wedi cynnal
gwasanaethau a swyddi ac wedi gwneud arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y
gyllideb yn 2017/18 (effaith blwyddyn gyfan o £0.574 miliwn).
“Yn ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf o bwys gwerth £2.4 miliwn yn cael eu
cwblhau eleni, ac mae’r ddau yn cael eu hariannu gan Aura heb gost i’r Cyngor
na thrigolion Sir y Fflint.”
Mae’r datblygiadau cyffrous hyn yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn
Jade Jones yn y Fflint. Mae cyfanswm o £1.447 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng
Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, i ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd llawr
gwaelod presennol ac i adeiladu stiwdio llawr cyntaf ychwanegol.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr, ac mae disgwyl i’r cyfleuster
newydd agor yn ail hanner mis Mai eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Mae’r gwelliannau ym Mhafiliwn Jade Jones yn cynnwys estyniad i’r ystafell
ffitrwydd bresennol drwy gael gwared ar y swyddfeydd presennol i greu ystafell
ffitrwydd â 55 gorsaf ac adnewyddu ystafelloedd newid gwlyb presennol y pwll
nofio gyda chynnydd yn cael ei ddarparu i’r man gwylio ar ymyl y pwll.
Amcangyfrifir fod cost y cynllun hwn ychydig o dan £1 miliwn.
“Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol i leoliadau eraill hefyd yn cael eu
datblygu.”
Mae Aura wedi bod yn gweithredu ers mis Medir llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn,
mae nifer o gamau allweddol y cynllun busnes gwreiddiol wedi cael eu cyflawni
gan gynnwys ailstrwythuro staffio mewn llyfrgelloedd a datblygu chwaraeon ac
ymestyn y gwasanaethau taliadau debyd uniongyrchol.