Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2019
Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell cymeradwyo trefniadau
derbyniadau ar gyfer mis Medi 2019 ddydd Mawrth, 20 Mawrth.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol,
awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror.
Roedd yn ymwneud â nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn
seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol.
Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i
gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau.
Mae newidiadau arfaethedig ir niferoedd derbyn mewn dwy ysgol i adlewyrchu
newidiadau yn yr adeiladau. Mae’r holl newidiadau wedi cael eu cymeradwyo gan
y penaethiaid perthnasol. Yr ysgolion yw Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug ac Ysgol
Gynradd Brychdyn.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
Rwy’n falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu
mynychur ysgol y maent wedii dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i
ddychwelyd eu ffurflenni neu geisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy’n
hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu
diwallu.”