Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun coed a choetiroedd trefol
Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gytuno ar Gynllun Coed a Choetiroedd Trefol
pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 20 Mawrth.
Un o bum blaenoriaeth allweddol y Cyngor yw bod yn Gyngor Gwyrdd, gwella’r
amgylchedd naturiol a hyrwyddo mynediad i fannau gwyrdd. Mae’r cynllun hefyd
yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) 2015
Llywodraeth Cymru sy’n gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol am gynnal a gwella
bioamrywiaeth a gwydnwch ecolegol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
“Mae’r bendithion amgylcheddol y mae coed a choetiroedd trefol yn eu cynnig yn
niferus ac yn amrywiol. Maent yn amsugno llygryddion yn yr aer ac yn darparu
ocsigen mwy ffres, maent yn rhoi cysgod a chynefin ac maent yn cael effaith
gadarnhaol ar ein iechyd meddyliol a chorfforol.
“Mae plannu a rheolaeth gynaliadwy o goed trefol yn amlwg yn cyflawni ein
dyletswyddau statudol, ond yn bwysicach na hynny ein dyheadau i wella ein
hamgylchedd naturiol ac mae’r cynllun yn cynnig dull o reoli coed a choetiroedd
mewn ffordd fwy cynaliadwy.”
Bydd y cynllun yn para 15 mlynedd sef yr un cyfnod a ddefnyddiwyd ar gyfer
Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu. Er ei fod
yn gyfnod byr o ran oes coeden, mae’n ddigon hir i goed wedi eu plannu sefydlu
eu hunain ac i’w cyfraniad i’r tirlun trefol gael ei gydnabod.