Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Datblygu Strategol
Published: 21/03/2018
Yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint
gymeradwyo ymateb arfaethedig i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at holl awdurdodau lleol Gogledd
Cymru yn eu gwahodd i roi eu barn ar baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS)
ar gyfer y rhanbarth.
Mae CDS yn gynllun a fyddai’n caniatáu materion mwy na rhai lleol fel tai,
cyflogaeth ac isadeiledd i gael eu hystyried mewn modd integredig a
chynhwysfawr ar draws y rhanbarth. Gallai cynllun o’r fath leihau cymhlethdod
ac ailadrodd sydd wedi eu cynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a
gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
“Gall Sir y Fflint yn sicr weld gwerth cynhyrchu CDS ar gyfer y rhanbarth, ond
fel Cyngor mae gennym un pryder o bwys ynghylch y cynnig. Nid oes unrhyw
gyfeiriad yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet ynglyn â phwy fyddai’n cynhyrchu
cynllun o’r fath ac rhaid i ni roi blaenoriaeth i gynhyrchu a mabwysiadu CDLl
Sir y Fflint. Ni allwn fforddio symud ein swyddogion cynllunio, sydd wedi
ymrwymo’n llawn i’n CDLl, oddi wrth y dasg honno er mwyn gweithio ar CDS
rhanbarthol.”