Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Amser cyffrous i gludiant yn Sir y Fflint
Published: 14/03/2018
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn
trosolwg o’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddarparu datrysiad Trafnidiaeth
Integredig y Cyngor pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf.
Mae’r trefniant cludiant integredig llawn wedi ei fabwysiadu fel elfen
allweddol o system Fetro Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cael ei hyrwyddo gan
Lywodraeth Cymru, sy’n darparu cyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer y cynllun.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y
Cyng. Carolyn Thomas:
“Mae 400 o fusnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac maen cyflogi
9,000 o bobl. Mae’n un o’r ystadau diwydiannol mwyaf yng Nghymru ac yn sbardun
allweddol i’r economi ar gyfer y rhanbarth. Mae swyddi ar gael ond gall fod yn
anodd i bobl gael mynediad atynt. Mae tagfeydd traffig yn broblem a gall
gymryd cyfnod afresymol o amser i weithwyr yn ogystal â dosbarthwyr nwyddau a
gwasanaethau gyrraedd a gadael y Parc.
“Mae’r Cynllun hwn yn gyffrous iawn i’r Sir. Bydd yn integreiddio pob dull o
gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a
hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar
yn greiddiol iddo ar yr un pryd.
“Bydd yn cynnwys rhwydwaith o lwybrau beicio penodedig yn gwasanaethu’r holl
fusnesau ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, canolfan reilffordd / ffordd /
bysiau fydd yn darparu mynediad i’r parc o orsaf newydd arfaethedig Parkway
Glannau Dyfrdwy a fydd, gobeithio yn cael ei hadeiladu yn agos at yr A548
gyfredol, darpariaeth gwasanaeth bws gwennol rheolaidd drwy’r parc, canolfan
bysiau / trenau yng Ngorsaf Shotton, canolfan bws gwennol yn Garden City a
gwell amseroedd ar gyfer teithiau bws gwell ar hyd coridor Shotton/Fflint. Mae
gwaith eisoes wedi cychwyn ar y mesurau llwybrau beicio a bysiau drwy Barth 3 y
Parc, a bwriedir cychwyn ar waith y seilwaith parcio ceir dros y misoedd
nesaf.
Mae’r prosiect yn amlygu beth y gellir ei gyflawni pan fydd y Cyngor yn
gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i ddod o hyd i
ddatrysiadau a fydd yn cynorthwyo datblygiad hir dymor yr holl ardal ac yn
gwarchod swyddir bobl syn gweithio yno.
Mae’r ardal o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi bod yn destun nifer
o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i’r casgliad mai un o’r prif
ffactorau sy’n cyfyngu ar dwf yw’r cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o
amgylch y Parc a bwriad y cynllun yw darparu trigolion Sir y Fflint a’r ardal
ehangach gyda mynediad hawdd at y canolbwynt pwysig hwn i gyflogaeth mewn modd
cynaliadwy a chost effeithiol.