Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fforwm Landlordiaid Cyngor Sir y Fflint
Published: 21/10/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol (NRLA) yn cynnal Fforwm Landlordiaid Arbennig ddydd Iau 17 Tachwedd 2022 rhwng 6pm a 7.30pm.
Bydd y Fforwm yn canolbwyntio ar newidiadau a ddaw yn gyfraith o 1 Rhagfyr 2022 o ganlyniad i gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar bob landlord yng Nghymru ac mae’n hanfodol fod pob landlord yn ymwybodol o’r camau y mae angen iddynt eu cymryd.
Dyma weminar na ddylid ei cholli!
Unwaith eto rydym wrth ein bodd o groesawu Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai yn Llywodraeth Cymru i ateb eich holl gwestiynau a bydd cyfran dda o amser yn cael ei neilltuo i hyn.
Rhaglen
- Croeso – Sandra Towers, NRLA, Cynrychiolydd Gogledd Cymru a Martin Cooil, Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal, Cyngor Sir y Fflint
- Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 Sandra Towers, NRLA Cynrychiolydd Gogledd Cymru i ddarparu trosolwg
- Bydd Simon White, Pennaeth y Strategaeth Dai, Llywodraeth Cymru, pensaer Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar gael i ateb cwestiynau
- Unrhyw fater arall
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i bawb - aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau o’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol.
Fodd bynnag mae’n rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw ac mae angen i chi gofrestru erbyn 5.30pm ar 17 Tachwedd 2022. Y rheswm am hyn yw i sicrhau y gall y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol anfon e-bost at y rhai sy’n mynychu gyda dolen i’r fforwm.
Sut i gofrestru Mae croeso i unrhyw un fynychu, landlordiaid, unrhyw un sy’n ystyried mynd i faes buddsoddi mewn eiddo a darparwyr gwasanaethau i landlordiaid. Ar ôl dilyn y ddolen hon, cliciwch ‘darganfod mwy’ ar waelod y sgrîn i gofrestru.
Ar ôl cofrestru, ticiwch y blwch ‘cliciwch yma i alluogi unrhyw gyd-drefnwyr i roi’r diweddaraf i chi…’ bydd hyn wedyn yn rhoi caniatâd i ni e-bostio unrhyw sleidiau neu wybodaeth yr hoffech ei dderbyn o bosibl wedi’r digwyddiad.
Gofyn cwestiynau Fe hoffem glywed eich cwestiynau ar y noson ac rydym yn eu croesawu ymlaen llaw i sicrhau ystyriaeth briodol. Fe allwch anfon eich cwestiynau mewn e-bost at Sandra Towers, Y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol sandra.towers@nrla.org.uk.
Cyfarwyddiadau ymuno Fe fydd eich dolen gyswllt a’r cadarnhad eich bod wedi archebu lle yn cael ei anfon mewn e-bost atoch, ond fe allwch hefyd gael mynediad at eich dolen ymuno yn eich Dangosfwrdd Hyfforddiant a Digwyddiadau yn eich cyfrif aelodaeth NRLA neu gyfrif gwestai.
Bydd y ddolen yn ymddangos 30 munud cyn y bydd disgwyl i’r cyfarfod ddechrau.
Yn dilyn eich presenoldeb yn y cyfarfod fe fydd DPP yn cael ei ychwanegu yn awtomatig i’ch cyfrif lle bo’n berthnasol.
Os oes unrhyw broblemau cysylltwch â Sandra Towers drwy e-bost, sandra.towers@nrla.org.uk, neu cysylltwch â thîm gweinyddol yr NRLA ar 0300 131 6400.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.