Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith Ffyrdd
Published: 21/10/2022
Rhoi Wyneb Newydd ar Ffordd Gerbydau yr A5104 Ffordd Corwen, Pontybodkin
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i roi wyneb newydd ar ffordd gerbydau A5104 Ffordd Corwen, Pontybodkin, (rhwng y gyffordd i Leeswood a Rhyd Osber) yn dechrau dydd Llun 24 Hydref am tua phythefnos. (Yn dibynnu ar y tywydd)
Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 09:00 a 17:00pm er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd.
Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.
Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.
Rhoi wyneb newydd ar ffordd yn B5121 Ffordd Maes Glas, Maes Glas
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i roi wyneb newydd ar y briffordd yn B5121 Ffordd Maes Glas, Maes Glas (rhwng y gyffordd i Lôn yr Ysgol a Basingwerk Terrace) gan ddechrau ddydd Mercher 26 Hydref am oddeutu 1 wythnos. (Yn dibynnu ar y tywydd).
Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 09:00 a 17:00pm er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd.
Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.
Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.
Rhoi wyneb newydd ar Ffordd Gerbydau’r A549 Pren Hill, Bwcle
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i roi wyneb newydd ar ffordd gerbydau ar A549 Pren Hill, Bwcle.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 2 benwythnos - dydd Sadwrn 29 Hydref a dydd Sul 30 Hydref ac yna dydd Sadwrn 5 Tachwedd a dydd Sul 6 Tachwedd. (Yn dibynnu ar y tywydd)
Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd gwyriad mewn grym rhwng 08:00 a 18:00 er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr y briffordd.
Yn ystod cyfnodau eraill y gwaith mae’n bosibl y bydd angen cau rhan o’r ffordd a bydd hynny wedi ei gyfyngu i’r oriau hynny nad ydynt yn rhai prysur (09:30 - 15:00).