Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhyddhad Ardrethi Dewisol
Published: 15/02/2018
Yn dilyn derbyn sylwadau ysgrifenedig gan aelodau etholedig a chyrff elusennol,
yn ystod cyfarfod diweddar o’r Cyngor Sir gofynnwyd i swyddogion lunio atebion
posibl ar gyfer ailsefydlu’r Rhyddhad Ardrethi Dewisol o 20% ar gyfer
sefydliadau sy’n meddiannu eiddo bach.
Ar 20 Chwefror bydd gofyn i’r Cabinet ystyried atebion a chostau ar gyfer newid
cynllun Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18 drwy ailgyflwyno rhyddhau dewisol ac
ychwanegol o 20%, ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy’n
meddiannu eiddo bach gyda gwerthoedd ardrethol o hyd at £6,000.
Bydd y newidiadau, os caent eu gweithredu, yn sicrhau bod 88 o’r sefydliadau
hyn sy’n meddiannu eiddo bach yn elwa ar ryddhad ardrethi o 100%, wedi ei
ariannu drwy gyfuniad o Ryddhad Ardrethi Gorfodol a/neu Ddewisol.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu
trin yn debycach i fusnesau ‘nid-er-elw’ sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad
ardrethi o 100% fel rhan o gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth
Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
“Yn anffodus, mae’r gyfraith yn dweud nad yw eiddo sy’n cael eu meddiannu gan
elusennau a chyrff cymunedol yn gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau
Bach. Maer Cyngor yn cydnabod rôl bwysig elusennau, grwpiau gwirfoddol a
sefydliadau cymunedol o fewn ein cymunedau. Er gwaethaf y pwysau cyllidebol
sydd arnom o ganlyniad i dderbyn llai o gyllid gan y llywodraeth ganolog, rydym
ni’n ystyried newid fframwaith polisi Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18.”