Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018
Published: 02/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto’n cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn
Fwy Diogel ar 6 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o
dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc.
Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis
bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau
diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y
byd. Thema eleni yw ‘Creu, Cysylltu a Rhannu Parch: mae rhyngrwyd gwell yn
dechrau gyda chi.’
Y llynedd, fe gyrhaeddodd yr ymgyrch 3 miliwn o blant a 2 filiwn o rieni ar
draws y DU, a bydd ysgolion Sir y Fflint yn chwarae eu rhan i gefnogi a chodi
ymwybyddiaeth.
Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu
Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
“Gyda’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan mor fawr yn ein
bywydau bob dydd, maen bwysig cofio bod yna bobl o hyd a fydd yn chwilio am
unrhyw gyfle i gyfaddawdu ar eich diogelwch ar-lein. Mae Diwrnod Defnyddior
Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl o’r risgiau sy’n
gysylltiedig â’r byd ar-lein. Mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu ein hunain a’n
plant a’n pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau nad ydym yn dod yn
ddioddefwyr seiberdroseddau.”
Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein:
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar ddyfeisiau newydd
- Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
- Siopwch yn ddiogel ar-lein – cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein
yn ddiogel
- Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny
- Peidiwch byth â chwrdd â ‘ffrind’ ar-lein
- Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol
- Os ydych chi’n cael eich bwlio ar-lein – dywedwch wrth rywun cyn i bethau
fynd yn waeth
- Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd – unwaith y byddant
ar-lein byddant allan o’ch dwylo
Dewch i ganfod mwy am Ddiwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd
rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2018.