Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Ffliw Adar gan Gyngor Sir y Fflint
Published: 29/01/2018
Mae Gwasanaeth Diogelu Defnyddwyr a Busnes, Cyngor Sir y Fflint yn dymuno
gwneud holl geidwaid adar a dofednod ar draws Sir y Fflint yn ymwybodol or
cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru i helpu i warchod adar a dofednod rhag
lledaeniad posibl y ffliw adar.
Oherwydd nifer o achosion o’r ffliw adar a gadarnhawyd ar draws Lloegr yn
ddiweddar mae Lloegr a nawr Cymru wedi eu datgan yn Barthau Atal y clefyd.
Mae pob achos hyd yma wedi digwydd mewn adar gwyllt ac mae’r risg i ddofednod
yn benodol o ledaeniad y clefyd naill ain uniongyrchol neun anuniongyrchol
nawr wedi’i godi gan y llywodraeth o risg isel i risg canolig o ddydd Iau 25
Ionawr 2018. Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid, Cyngor Sir y Fflint yn cynghori holl
geidwaid adar a dofednod am bwysigrwydd sicrhau lefelau uchel o bioddiogelwch
ar gyfer eu hanifeiliaid anwes/da byw i ddiogelu eu hadar eu hunain ac atal
unrhyw ledaeniad posibl o’r clefyd.
Fel rhagofal, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar a fydd yn
berthnasol o 00:01 ar 25 Ionawr 2018.
Bydd y Parth Atal yn gofyn i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth
sut maent yn cael eu cadw, gymryd camau addas ac ymarferol, yn cynnwys:
• Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft
drwy osod rhwydi dros byllau, a chael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt;
• Bwydwch a rhowch ddwr ich adar mewn mannau amgaeedig i beidio ag annog adar
gwyllt;
• Lleihewch symudiad pobl i mewn ac allan o fannau caeedig syn cynnwys adar;
• Glanhewch a diheintiwch esgidiau, a chadw’r ardaloedd lle mae adar yn byw yn
lân ac yn daclus;
• Lleihewch unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd
concrid, a rhoi ffens o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
“Mae diogelu iechyd a diogelwch ein cymunedau a’n heconomi leol yn brif bryder
i’r Cyngor ac os byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd a dilyn cyngor
Llywodraeth Cymru i gadw’r clefyd hwn allan o’n sir, gobeithio y byddwn yn
gallu ei atal yn llwyr neu gyfyngu ar ei effaith pe bai haint yn digwydd.
Mae canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid sydd gyda mwy na 500 o adar i
gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, yn cynnwys cyfyngu ar fynediad i
bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd ir mannau
caeedig syn cynnwys yr adar, a diheintio cerbydau.
Bydd holl ddeiliaid dofednod ac adar eraill sydd wedi eu caethiwo angen
cydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. Gofynnir i geidwaid
barhau’n wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae ffliw adar yn glefyd hysbysadwy
a dylid rhoi gwybod am unrhyw beth amheus i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a
Phlanhigion (APHA).
Cynghorir holl geidwaid dofednod, hyd yn oed y rhai â llai na 50 o adar i
ddarparu eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir
cysylltu â nhw ar unwaith, drwy e-bost neu ddiweddariad testun os bydd yna
achos o glefyd adar, i’w galluogi i ddiogelu eu praidd gynted â phosibl.
Mae gwybodaeth ar ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a datblygiadau
diweddaraf i gyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dylai unrhyw geidwaid adar/dofednod â phryderon am eu hadar gysylltu â’u
milfeddygfa breifat neu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar
gyfer y cyngor diweddaraf.