Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Aura a Chyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi buddsoddiad mawr yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug
Published: 10/01/2018
Mae Aura Leisure and Libraries Limited, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y
Fflint, yn falch o gyhoeddi cynlluniau cyffrous i ailddatblygu ac ehangu’r
cyfleusterau ffitrwydd a hamdden sydd yn yr Wyddgrug.
Ar 19 Rhagfyr 2017, daeth y Cyngor yn rhan o gontract i fuddsoddi £1.4 miliwn i
ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd presennol ac adeiladu stiwdio ychwanegol.
Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu a chynnal gwasanaethau hamdden yn yr Wyddgrug
ar cylch, yn ogystal â darparu gwell cyfleusterau i blant ysgol a fydd yn
helpu rhai sydd mewn oedran allweddol i wneud mwy o ymarfer corff.
Bydd y datblygiad newydd yn cael ei ariannu drwy gynllun benthyca darbodus y
Cyngor, gydag Aura yn talu’r benthyciad yn ei ôl, ac mae’n dangos ymrwymiad y
Cyngor i wella gwasanaethau mewn ffyrdd mwy arloesol a fforddiadwy, heb gost
i’r Cyngor yma, gan y bydd y cynllun yn talu amdano’i hun dros amser.
Bydd Aura yn rheoli ac yn gweithredu’r gwasanaethau newydd yn unol â’i
weledigaeth i wella iechyd meddwl a chorfforol. Sefydliad elusennol a dielw
sy’n eiddo i’r gweithwyr yw Aura, sy’n gyfrifol am reoli’r mwyafrif o
ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Rydw i wrth fy modd yn gweld y gwelliannau yma a ’dwi’n siwr y byddant yn
boblogaidd ymysg disgyblion a thrigolion lleol. Braf iawn ydi gweld buddsoddi
parhaus fel hyn yng nghyfleusterau chwaraeon a hamdden y sir.
Dywedodd Tom Williams, Rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug:
“Mae tîm Canolfan Hamdden yr Wyddgrug yn edrych ymlaen yn arw at y datblygiad
newydd. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i ehangur gwasanaethau rydyn nin eu
cynnig ir gymuned ac i barhau i ateb y galw gan gwsmeriaid o bob oed. Bydd
adeiladu stiwdio arall ar y llawr gwaelod ac estyniad ar yr ystafell ffitrwydd
yn ein cefnogi i ddarparu gweithgareddau newydd ir gymuned ar ddwy ysgol
uwchradd gyfagos.
Dywedodd Christine Edwards, Cadeirydd Bwrdd Aura:
“Rydyn ni’n hynod falch o’r buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug,
mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wrth i ni barhau ar ein taith fel
sefydliad newydd dielw sy’n eiddo i’r gweithwyr. Fe fydd y datblygiad yn
cyfrannu at nod Aura o ‘fod o fudd i’r gymuned drwy wella ansawdd bywyd drwy
ddarparu cyfleoedd hamdden a diwylliant syn gwella iechyd meddwl a
chorfforol’. Rydyn nin awyddus i gynnig mwy o ffyrdd fforddiadwy i wneud
ymarfer corff drwy ehangu ein gwasanaethau yn yr Wyddgrug fel eu bod nhwn
gynaliadwy yn y dyfodol a gweithio’n agos gyda holl aelodau ein cymuned o oed
cynnar ymlaen.”