Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf a Strydwedd yn dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant

Published: 03/01/2018

Daeth nifer o bobl leol ynghyd yn ddiweddar i dderbyn eu tystysgrifau, wedi iddynt gwblhau cwrs hyfforddiant unigryw. Gweithiodd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint mewn partneriaeth â Thîm Strydwedd Cyngor Sir Y Fflint i greu cwrs tair wythnos newydd a chyffrous yn cynnig hyfforddiant, sgiliau a phrofiad gwaith yn ymwneud â swyddi o fewn adran Strydwedd y Cyngor. Dywedodd un cyfranogwr: “Fe wnaethom ddysgu sgiliau defnyddiol iawn, gan gynnwys codi a symud yn gorfforol, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a gwasanaeth cwsmeriaid. Cawsom hefyd gyfle i gael profiad ymarferol o ddelio â gwastraff cyffredinol, a chyfle i weithio yn yr eira ac roedd hynny’n brofiad da. Rwy’n gobeithio cael swydd gyda’r Cyngor yn y dyfodol.” Dywedodd un o’r cyfranogwyr eraill: “Bydd y cymwysterau a’r profiad a gefais o gymorth i mi gael swydd yn y dyfodol ac maent yn edrych yn dda ar fy CV. Rwy’n gobeithio dechrau swydd mewn ffatri leol ar ôl gorffen y cwrs hwn.” Cydweithiodd Nia Parry, Swyddog Cymunedau Yn Gyntaf a Gemma Boniface, Uwch Swyddog Cydymffurfedd a Hyfforddiant Strydwedd i drefnu cynnwys y cwrs. Darparwyd y cwrs ar y cyd gan yr hyfforddwr Strydwedd, Stephen Jones a Groundworks, Gogledd Cymru. Goruchwyliwyd y lleoliadau gwaith gan y Rheolwr Logisteg, Gareth Thomas. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Mae gallu cynnal cyrsiau hyfforddi o’r fath o gymorth mawr i breswylwyr lleol ac ein heconomi leol. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal. Rwyn falch iawn bod y cwrs Strydwedd hwn wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn dymunor gorau i bawb ar gyfer y dyfodol. Pennawd y Llun: O’r Chwith i’r Dde: Gemma Boniface, Gareth Thomas, Daniel Higgins, Raymond Limbert, Lee Thompson, Niall Waller, Dale Hughes, Nigel Page, Jordan Auld a Nia Parry.