Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwybodaeth am ffordd ddeuol A541 Plas Teg
Published: 22/12/2017
Yn dilyn derbyn gwybodaeth ynglyn â cherbydau yn parhau i oryrru ar hyd ffordd
ddeuol A541 Plas Teg tuar gorllewin, mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu
ymgymryd â gwaith i osod nodweddion diogelwch ychwanegol.
Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd y Cyngor:
“Rydym ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sy’n cael ei achosi cyn y
Nadolig, ond mae’n bwysig ac yn angenrheidiol ein bod ni’n ddarparu mwy o
nodweddion cynghorol i’r gyrwyr hynny sy’n parhau i oryrru ar y ffordd hon,
ffordd sydd eisoes â chamera cyflymder. Mae’n bryderus iawn yn dilyn yr holl
farwolaethau trychinebus bod gyrwyr yn parhau i oryrru a rhoi eu hunain ac
eraill mewn perygl.”