Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Llwyddiannau Enillwyr Gwobrau Dug Caeredin
Published: 04/12/2017
Yn ddiweddar cyflwynwyd Gwobrau Dug Caeredin i 200 o bobl ifanc o bob rhan o
Sir y Fflint mewn seremoni yng Ngwesty’r Springfield ger Treffynnon.
Sefydlwyd y Wobr gan Ddug Caeredin ym 1956 ac erbyn hyn hwn yw’r cynllun
gwobrwyo cyflawniad pobl ifanc mwyaf enwog yn y byd.
Mae’n cynnig rhaglen wirfoddol, heb fod yn gystadleuol o weithgareddau ar gyfer
pobl ifanc rhwng 14-24 oed ac mae tair lefel - efydd, arian ac aur. Mae pedair
adran i bob gwobr - gwirfoddoli, sgiliau, corfforol ac alldaith - gall gymryd
6 mis neu fwy i gwblhaur wobr efydd ac o leiaf 18 mis i gwblhaur wobr aur.
Maen rhaid ir bobl ifanc sydd wedi cyrraedd lefel y wobr aur hefyd ymgymryd â
gweithgaredd breswyl.
Cyflwynydd y noson oedd Gary Williams, Swyddog Datblygu Gwobr Dug Caeredin
Cyngor Sir y Flint, a chyflwynwyd y tystysgrifau gan Claire Homard, Prif
Swyddog Addysg ac Ieuenctid Interim CSFf; Diane Aplin, Cyfarwyddwr WeMindTheGap
ac Ann Roberts Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint.
Cafwyd adloniant gan Rebecca Owen a Charlotte Roberts o Ysgol Uwchradd Gatholig
Sant Richard Gwyn.
Llywyddion y noson oedd Amelia James o Ysgol Maes Garmon a Grace Thomas o
Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Meddai Claire Homard:
“Rydw i wrth fy modd cael bod yma heno i ymuno yn y dathliadau ac i helpu i
gyflwyno’r gwobrau hyn. Mae’n galonogol dros ben gweld cymaint o bobl ifanc
yn cymryd rhan yn y cynllun gwerth chweil hwn gan gyfoethogi eu bywydau yn
ogystal â gwella eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol . Da iawn i chi i gyd!