Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Teithio Cymunedol yn Parhau i Ehangu
Published: 04/12/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau
Cymuned Treuddyn, Llanfynydd, Coed-Llai a Phontblyddyn yn ogystal â Brychdyn a
Bretton i ddatblygu gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy ar gyfer yr
ardal.
Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 28 Tachwedd ac mae’n gweithredu gyda
llwybr ac amserlen sefydlog sy’n galluogi trigolion o’r ardal i gael mynediad a
chysylltu â gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Yr Wyddgrug.
Y cynllun hwn yw’r diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda
Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall, Cei Connah a
Bwcle.
Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl
sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd
y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau
iechyd/meddygol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
“Mae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl
ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi
dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan
tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle
bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae
Cynlluniau Cludiant Cymunedol o’r fath yn hanfodol ac yn dod yn angen brys
oherwydd yr hinsawdd economaidd o galedi parhaus.”
Mae paratoadau i ddatblygu cynllun cludiant cymunedol tebyg yn Nhreffynnon a’r
cyffiniau eisoes ar waith.
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin
tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234.
Cyngor Sir y Fflint yn lansio ei gludiant cymunedol diweddaraf yn Pontybodkin.
Yn y llun: Jess Pritchard o’r Gwasanaeth Strydwedd ynghyd â gyrrwr y bws, Jeff
Price, y Cynghorydd David Hughes, y Cynghorydd Carolyn Thomas, y Cynghorydd Ray
Hughes a pherchennog y bws, Mark Coates.