Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun y Cyngor – adroddiad canol blwyddyn
Published: 21/11/2017
Ddydd Mawrth, 21 Tachwedd, bydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn
adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd y Cyngor.
Pob blwyddyn maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau yng Nghynllun y
Cyngor, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a gwella
safonau byw ledled y sir.
Mae adroddiad monitro dydd Mawrth yn darparu asesiad canol blwyddyn ac yn
dangos pa un ai ywr Cyngor ar y trywydd cywir i gyflawnir effeithiau dymunol.
Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn ariannol bresennol yn cynnwys:
· Cynllun Buddsoddi Safon Ansawdd Tai Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd y
targed, gyda 3,000 o geginau a 4,000 o ystafelloedd ymolchi wedi eu gosod yn
ystod y 3 blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi
· Adeiladu tai newydd, gyda 18 o unedau fforddiadwy wedi eu codi a’u
trosglwyddo i NEW Homes yn barod a 44 arall iw cwblhau erbyn diwedd y
flwyddyn
· Cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi preswyl a 2
gartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau “Progress for Providers”
· Helpu aelwydydd Sir y Fflint i dderbyn dros £400,000 o incwm ychwanegol drwy
fudd-daliadau
· Darparu cymorth digidol i dros 500 o hawlwyr Credyd Cynhwysol a oedd angen
cymorth i greu a defnyddio eu cyfrifon ar-lein
· Cynnal 100% o asesiadau CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant ar Glasoed) o
fewn y targed o 28 diwrnod
· Gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, sydd ar y trywydd cywir ac
yn cael ei ehangu
· Dull partneriaeth rhagweithiol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar
gyfer defnyddio cronfeydd gofal canolraddol yn cael effaith gadarnhaol ar
sicrhau pontio esmwyth ar gyfer cleifion rhwng yr ysbyty a gwasanaethau gofal
cymdeithasol
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Drwy Gynllun y Cyngor rydym ni’n blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy’n
bwysig i’n cymunedau an preswylwyr ac yn mesur pa mor dda rydym ni’n
cyflawnir gwaith.
“Er gwaethaf yr heriau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i
fod yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn benderfynol o ddarparu ein
blaenoriaethau, syn cynnwys cynorthwyo pobl gyda mynediad at dai fforddiadwy
addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth.
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor:
Mae perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y
maer Cyngor yn cyflawnir pethau sydd bwysicaf in cymunedau, gan adeiladu ar
y ffaith mai ni oedd y cyngor a welodd y gwelliant mwyaf yn 2016/17, er
gwaethaf y sefyllfa economaidd sydd ohoni.”