Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwygio Lles
Published: 14/11/2017
Erbyn 2020, bydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU wedi lleihau gwariant ar y
budd-daliadau nawdd cymdeithasol sydd ar gael i aelwydydd incwm isel oedran
gwaith o tua £31 biliwn y flwyddyn.
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir y Fflint nodi adroddiad
sy’n rhoi diweddariad ar effeithiau ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a
diwygiadau lles eraill ar drigolion mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint a’r gwaith
sy’n mynd yn ei flaen i liniaru a chefnogi’r aelwydydd hyn.
Mae diwygiadau lles yn dal i gael effaith fawr ar nifer o aelwydydd ac mae Sir
y Fflint yn cyflwyno rhaglen weithredu ragweithiol i dargedu cefnogaeth at yr
aelwydydd hyn er mwyn helpu lliniaru’r effeithiau a hefyd i helpu aelwydydd i
baratoi rwan am newidiadau yn y dyfodol.
O hydref 2016, maer uchafswm budd-daliadau wedi ei ostwng yn sylweddol. Erbyn
mis Medi eleni, effeithiwyd ar 111 o aelwydydd Sir y Fflint gan hyn, sy’n
gyfystyr â cholli £12,300 o incwm yr wythnos – mae hyn yn bron i £640,000 y
flwyddyn.
Darparwyd cymorth i gwsmeriaid o ran atgyfeiriadau i gwmnïau tanwydd a
gwasanaethau i gael mynediad at dariffau cymdeithasol a gwasanaethau cynnal, i
hyrwyddo Taliadau Dewisol Tai yn rhagweithiol a chynorthwyo wrth ddelio a
dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.
Cyflwynwyd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol (CC) yn yr Wyddgrug, Shotton a’r
Fflint yn gynharach eleni. Ddiwedd Medi, llwyth achosion hawliadau CC yw
2,356. Yn Sir y Fflint rydym yn profi, o lygad y ffynnon, nifer sylweddol o
heriau a phroblemau gyda chyflwynor Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol. Yn
rhannol oherwydd y newid mawr y mae’n rhaid i’r rhai sy’n hawlio ymdopi ag o,
ac yn rhannol am fod y prosesau CC yn dal i gael eu datblygu fel rhan o
ymagwedd “profi a dysgu” Llywodraeth y DU tuag at ei gyflwyno.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae ymateb y Cyngor i weithrediad Credyd Cynhwysol wedi ei ystyried yn fodel
o arferion da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn
deyrnged i’n swyddogion Cysylltu sydd wedi darparu cefnogaeth ddigidol i dros
1,000 o gwsmeriaid, gan eu helpu i wneud hawliad newydd am CC a rheoli eu cais
ar-lein am Gredyd Cynhwysol.”
Rhai o’r meysydd eraill a effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles, ac yn cael
effaith negyddol ar drigolion diamddiffyn yw:
· Cymhorthdal ystafell sbâr (a elwir hefyd yn “dreth ystafell wely”);
· Casgliadau rhent – problemau wrth drosglwyddo o fudd-dal tai i CC;
· Gwasanaethau Digartrefedd – roedd budd-dal tai yn arfer talu rhai o’r costau
a wynebwyd gan yr Awdurdod Lleol wrth roi unigolyn neu deulu mewn llety brys
tymor byr. Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys darpariaeth o’r fath.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod
Cabinet Tai:
“Mae Sir y Fflint ar flaen y gad ac wedi bod yn arloesol wrth weithio i
ddarparu cefnogaeth ac atebion i helpu ein trigolion mwyaf diamddiffyn. Ers
mis Ebrill 2017, darparwyd Cymorth Gosod Cyllideb Bersonol gan ein Tîm Ymateb i
Ddiwygio Lles.”
Mae achosion Cymorth Gosod Cyllideb Bersonol eisoes wedi amlygu materion fel
benthycwyr diwrnod cyflog yn cael mynediad uniongyrchol i gyfrif banc cwsmer
fel eu bod yn cael mynediad i’r cyfrif pan fod y CC misol yn cael ei dalu ac yn
gadael y cwsmer heb ddigon o arian i fyw arno.