Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyniad ar Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan 2017
Published: 26/10/2017
Rhoddodd chwech o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan fel rhan o Brosiect
Cyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2017 gyflwyniad disglair am eu profiadau.
Rhannodd y bobl ifanc eu profiadau gyda chynulleidfa o fyfyrwyr eraill sydd â
diddordeb mewn gwneud cais am le ar daith gyfnewid 2018 mewn Noson Gyflwyno a
gynhaliwyd gan y Cyng. Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint.
Aeth Sophie Hodby, Cassia Hashempour, Megan Owens, Phoebe Lewis, Ellie Harper,
and Samuel Wiggs i Japan ym mis Awst eleni i aros gyda theuluoedd Japaneaidd yn
nhrefi Murata, Kawasaki a Zao. Yn eu cyflwyniad fe wnaethant drafod eu
profiadau o fywyd Japaneaidd, gan gynnwys byw gyda theulu Japaneaidd, pa fath o
fwyd wnaethon nhw ei fwyta a’r llefydd y gwnaethon nhw ymweld â nhw yn ystod eu
pythefnos yn y wlad.
Fe wnaethant hefyd sôn am groesawu eu cyfeillion o Japan i Sir y Fflint a
dangos agweddau ar ddiwylliant Cymru iddyn nhw, ac am y cyfeillgarwch a grëwyd
dros bedair wythnos y prosiect. Dangosodd y myfyrwyr luniau ou hymweliadau â
Tokyo, beddrodau, mannau o harddwch naturiol a lluniau eraill o’u hanturiaethau
niferus, gan gynnwys gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau Japaneaidd
Meddai’r Cynghorydd Lloyd:
“Maer cysylltiadau sy’n cael eu meithrin drwyr prosiect cyfnewid hwn yn rhoi
cyfle ir ddwy wlad ddod ynghyd i gyfnewid syniadau ac i ddysgu am ffordd o fyw
a diwylliant ei gilydd. Maer prosiect cyfnewid ieuenctid wedi bod yn
llwyddiant ysgubol o ran datblygu dealltwriaeth a goddefgarwch, yn enwedig
ymysg y genhedlaeth iau, ac mae hynny’n mynd i fod o fudd i gysylltiadau
rhyngwladol yn y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint
am ei nawdd parhaus a hael i ochr Sir y Fflint o’r rhaglen gyfnewid a hefyd am
y cymorth hael a gafwyd eleni gan Toyota Uk, Glannau Dyfrdwy, Calbee UK Ltd a
Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr.
Cytunodd rhieni Sir y Fflint a groesawodd fyfyrwyr Japaneaidd iw cartrefi fod
y profiad hwn yn un unwaith mewn oes ac maen nhwn argymell y rhaglen i
unrhyw deulu arall sydd â phlentyn sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer
prosiect cyfnewid 2018.
Cydlynir y rhaglen gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec
Sir y Fflint ac mae ar agor i bob myfyriwr sy’n 16 – 18 oed ar 1 Medi ac sydd
mewn addysg llawn amser yn ysgolion a cholegau Sir y Fflint.
Mae’n rhaid dychwelyd ceisiadau ar gyfer prosiect cyfnewid 2018 erbyn dydd Llun
13 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflenni cais cysylltwch â Karen
Jones, Cydlynydd Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan, ar 07759295984 neu
mailto:karenjones@flintshire.gov.uk.