Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Plannu Cennin Pedr
Published: 24/10/2017
Ymunodd disgyblion o Ysgol Maes Y Felin â Cheidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint ym
Mharc Treftadaeth Maes Glas yn ddiweddar i helpu i blannu bylbiau cennin Pedr.
Meddai Karen Rippin, parcmon Sir y Fflint yn Nyffryn Maes Glas:
“Bu’r disgyblion 6 a 7 oed yn helpu i blannu ychydig dros 1,000 o fylbiau ar
hyd y llwybrau sy’n arwain i’r parc gwledig ac edrych ar bryfed a phryfaid
genwair ar hyd y ffordd.”
Dywedwyd wrth y disgyblion am gylch oes planhigion a beth sydd ei angen arnynt
i dyfu. Gwnaethant ddysgu nad yw pob bwlb cennin Pedr yn felyn, ond byddai’r
bylbiau roeddent yn eu plannu yn blodeuo yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a
byddai eu blodau melyn llachar yn denu ymwelwyr i’r parc.
Dywedodd Mrs. Martin, athrawes yn Ysgol Maes Y Felin:
“Roedd y plant wrth eu bodd yn helpu i blannu’r bylbiau ac rydym yn bwriadu dod
yn ôl yn y gwanwyn i weld y cennin Pedr a chael picnic.”