Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prif Wobr i Ysgol Sir y Fflint
Published: 19/10/2017
Mae Ysgol Gwynedd yn Fflint wedi’i dyfarnu â’r radd uchaf yn dilyn asesiad gan
sefydliad Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Cafodd yr ysgol ei hasesu yn erbyn safon Iechyd a Lles Buddsoddwyr Mewn Pobl,
gan gyflawni Gwobr Platinwm am Berfformiad Da. Caiff y lefel hon ei dyfarnu i
lai na 2% o sefydliadau dros y byd i gyd. Mae’r wobr yn edrych ar
arweinyddiaeth yr ysgol a’r cyfleoedd i staff a disgyblion aros yn iach, yn
gorfforol ac yn feddyliol.
Dywedodd y pennaeth, Jeremy Griffiths:
“Rydym yn falch iawn o’r cyflawniad hwn. Mae’n wych cael archwiliad allanol ac
i gael ein meincnodi yn erbyn arfer gorau syn arwain y sector. Mae pawb yn yr
ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol i sicrhau ein bod ni i gyd yn “Tyfu, Dysgu,
Llwyddo, Gydan Gilydd, sef arwyddair yr ysgol. Mae popeth a wnawn yn cael
effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i’n disgyblion.”
Nododd yr adroddiad sawl nodwedd ragorol, yn cynnwys sylwadau cadarnhaol gan
staff. Nododd yr aseswr, Sarah Botterill, y canlynol:
“Mae gwerthoedd Ysgol Gwynedd yn glir, wedi’u cyfathrebu’n dda ac wedi’u deall.
Mae gwerthoedd wedi’u hymgorffori ac yn darparur sylfaen ar gyfer y diwylliant
cadarnhaol sydd yno. Mae’r ysgol wedi cysylltu amcanion strategol yr ysgol
(canlyniadau disgyblion) yn glir â lles y staff syn gweithio yno.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Mae’r Wobr Blatinwm hon am “Berfformiad Da” yn anrhydedd teilwng, ac mae staff
a disgyblion Ysgol Gwynedd wedi gweithio’n galed iawn dros lawer o flynyddoedd
i ymgorffori iechyd a lles wrth wraidd popeth a wnawn. Mae hon yn gamp enfawr
ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono fel sir.”
Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Claire Homard:
“Maent wir yn haeddur wobr hon, ac maen adlewyrchiad cadarnhaol ar ansawdd yr
arweinyddiaeth ar gwaith tîm yn Ysgol Gwynedd i gadw iechyd a lles cymuned yr
ysgol gyfan ar flaen y gad o ran rhaglen yr ysgol. Rwy’n llongyfarch y
pennaeth, y staff, y llywodraethwyr a disgyblion yn Ysgol Gwynedd.”