Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae fy nheulu i’n maethu
Published: 03/10/2017
Mis Meibion a Merched: dathlu teulu maeth yw ymgyrch flynyddol Rhwydwaith
Maethu i ddathlu’r cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i
ofal maeth llwyddiannus.
Bob blwyddyn, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a
gweithgareddau i gydnabod plant a phobl ifanc a’r rôl bwysig maen nhw’n chwarae
wrth groesawu plant maeth i’w teuluoedd.
Bydd tîm maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 7 Tachwedd am
7pm yng Ngwesty Springfield, Treffynnon, gan gynnig cyfle i ddod o hyd i fwy o
wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth.
Mae cant a dau ddeg pedwar o deuluoedd lleol yn maethu gyda Chyngor Sir y
Fflint. Mae eu plant eu hunain, yn ogystal â’r plant maeth, yn byw gyda tua
traean o ofalwyr maeth Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae plant gofalwyr maeth yn chwarae rôl bwysig yn croesawu plant maeth i’w
teuluoedd a sicrhau lleoliadau maeth llwyddiannus.
“Mae llawer o bobl yn dweud mai’r effaith bosib ar eu plant eu hunain yw un o’r
prif rwystrau i ddod yn ofalydd maeth. Y realiti yw bod nifer o blant yn elwa
o fod yn rhan o’r rhwydwaith gefnogi sy’n cael ei chynnig gan deulu maeth i
blentyn maeth. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad gwerth
chweil a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.”
Dywedodd Janette, gofalwr maeth Sir y Fflint:
“Mae fy meibion fy hun wedi bod yn faethwyr ifanc ers nifer o flynyddoedd ac
wrth fynychu digwyddiadau grwp, maen nhw’n cael y cyfle i gyfarfod maethwyr
ifanc eraill ac yn ogystal â hynny, maer digwyddiadau’n gwneud iddyn nhw
deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o deulu ehangach yn y rôl
bwysig maen nhwn ei wneud.”
Dywedodd Debra, gofalwr maeth arall yn Sir y Fflint:
“Mae’r grwp maethu ifanc yn grêt. Mae ein plant yn mwynhau’r diwrnodau gwych.
Nid yn unig maen nhw’n cael amser i fwynhau eu hunain, ond maen nhw hefyd yn
cael cyfle i gyfarfod â maethwyr ifanc eraill. Yn ddiweddar, buon nhw ar daith
i ‘Treetops’ ym Metws-y-Coed ac fe gafon nhw ddiwrnod ffantastig, llawn hwyl.
Debra, Gofalwr Maeth Sir y Fflint.
Mae tîm maethu Sir y Fflint yn cynnal grwp cefnogi ar gyfer meibion a merched
eu gofalwyr maeth ac yn trefnu taith llawn hwyl yn ystod gwyliau’r ysgol i
ddweud diolch. Eleni, mae’r grwp wedi mwynhau teithiau i fowlio deg, chwilfa
laser, go cartio a thaith haf i ‘Treetops ym Metws-y-Coed. Mae parti
anifeiliaid Calan Gaeaf wedi cael ei drefnu ar gyfer hanner tymor mis Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu
ffoniwch 01352 701965.