Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth
Published: 22/09/2017
Byd natur yw system cynnal bywyd y blaned, ac mae’n darparu ein bwyd, dwr, aer,
deunyddiau adeiladu, meddyginiaethau an tirwedd. Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth
o fywyd ar y ddaear ac mae colli bioamrywiaeth yn parhau o ganlyniad
uniongyrchol i effeithiau dynol, drwy golli cynefinoedd a diraddiad, gor
ecsbloetio, llygredd, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol.
Mae Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint wedi ei lunio
mewn ymateb ir dyletswyddau cynyddol o ran bioamrywiaeth a gwytnwch
ecosystemau o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Llywodraeth Cymru,
fframwaith newydd o ran deddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac sy’n golygu fod
rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus geisio cynnal a chynyddu bioamrywiaeth cyn belled
â’i fod yn gyson gyda chyflawni ei swyddogaethau’n briodol ac wrth wneud hynny
hybu gwytnwch ecosystemau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
Gellir ymdrin âr holl fygythiadau i fioamrywiaeth gan gynnwys gor ecsbloetio,
colli cynefinoedd a rhywogaethau goresgynnol drwy fyw yn fwy cynaliadwy. Fel
awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy
esiampl o ran amddiffyn a hybu ein hamgylchedd naturiol.
“Mae Cyngor Sir y Fflint fel Awdurdodau Lleol eraill o dan bwysau ariannol
parhaus ac estynedig, ond mae’n hanfodol fod mentrau amgylcheddol yn cael eu
cofleidio fel cyfle i wella lles y sir gyfan, gwytnwch a gwneud arbedion
ariannol gwerthfawr.
“Er mwyn ymateb i’r her o ddadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth mae’n
hanfodol ein bod yn gweithredu nawr a sicrhau ein bod fel awdurdod lleol yn
diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i
ddiwallu eu hanghenion eu hunain.”
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y Cynllun Cyflawni Dyletswydd
Bioamrywiaeth yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi.