Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint
Published: 22/09/2017
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint wedi cyrraedd carreg filltir yn
ei ddatblygiad yn dilyn canolbwyntio ar y camau ymgysylltu cychwynnol a
chyfranogi o baratoi ar gyfer y cynllun fel a nodwyd gan Reoliadau CDLl
Llywodraeth Cymru. Daethpwyd â’r gwaith at ei gilydd i ffurfio’r Strategaeth a
Ffefrir ar gyfer y CDLl. Cyn hyn, mae’r Cyngor wedi cynnal nifer o
ymgynghoriadau a phrosesau ymgysylltu sy’n ymwneud â Negeseuon Allweddol y
Cynllun a’r Opsiynau Strategol sy’n cael eu hategu gan ymgysylltu sylweddol âr
gymuned.
Mae’r CDLl yn darparu fframwaith Sir y Fflint ar gyfer cynllunio defnydd tir yn
y sir hyd at y flwyddyn 2030. Bydd yn siapio dyfodol ffisegol ac amgylcheddol
Sir y Fflint, ac yn dylanwadu arno’n economaidd ac yn gymdeithasol drwy ymateb
i anghenion poblogaeth sy’n tyfu ac economi bwysig yn rhanbarthol, ond mae’n
rhaid iddo wneud hyn mewn ffordd sy’n sicrhau bod lles ei gymunedau yn cael ei
gynnal a bod effaith datblygu a defnydd tir yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a
Chynllunio:
“Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn cynrychiolir trawsnewid rhwng y camau
ymgysylltu ac ymgynghori anffurfiol blaenorol a’r camau ymgynghori mwy ffurfiol
wrth symud ymlaen tuag at fabwysiadu’r Cynllun.
“Mae’r Cyngor wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau wrth ymgysylltu ag
amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid wrth i’r CDLl ddatblygu i ddarparu fframwaith
ar gyfer cynllunio defnydd tir Sir y Fflint gan y bydd y broses o gael
consensws yn ein galluogi i gyflwyno’r Strategaeth a Ffefrir yn hyderus ar
gyfer ymgynghori arni.
“Pan fydd wedi gorffen, bydd yn darparu canllaw cynhwysfawr o gyfleoedd
cynllunio yn y sir a bydd yn ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy.”
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo drafft terfynol y
Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi
gyda’r bwriad o’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus swyddogol.
Mae rhagor o wybodaeth am CDLl Sir y Fflint ar gael ar wefan y Cyngor:
www.flintshire.gov.uk/ldp.