Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf
Published: 20/09/2017
Mae’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf yn un o swyddogaethau pwysicaf y
Cyngor a phob blwyddyn, rhwng mis Hydref a mis Ebrill, mae’n darparu gwasanaeth
hanfodol i sicrhau mynediad diogel a dibynadwy i’r rhwydwaith ffyrdd. Er mwyn
ymgymryd â’r ddyletswydd hon, mae cynlluniau wrth gefn wedi eu datblygu i
ddeilio â digwyddiadau annisgwyl, fel tywydd gwael, yn brydlon ac yn
effeithiol.
Ddydd Mawrth, 19 Medi, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd y Cyngor yn
ystyried adroddiad sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi Cynnal a Chadw yn y
Gaeaf diwygiedig sy’n:
· Diweddaru’r polisi presennol
· Cadarnhau gofynion deddfwriaethol darparu gwasanaeth o’r fath
· Cadarnhau’r dyraniad cyllidebol a’r gwir wariant wrth gydymffurfio â’r polisi
presennol a darparu’r gwasanaeth yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf
Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y system bresennol yn cwrdd â’r risgiau yn
ystod cyfnodau o dywydd gwael a’i bod hefyd yn effeithiol wrth ddefnyddio’r
adnoddau angenrheidiol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith yr amhariad ar
ddefnyddwyr gwasanaeth a meysydd gwasanaeth eraill. Roedd rhai newidiadau i
drefniadau gweithredu’r gwasanaeth yn angenrheidiol, gan gynnwys:
· Fflyd graeanu newydd sbon ar gyfer tymor 2017/18, gyda meddalwedd Schmidt
Autologic sy’n caniatáu i yrwyr ganolbwyntio’n llwyr ar y ffordd a sicrhau bod
y swm cywir o halen yn cael ei wasgaru
· Bydd gyrwyr gweithredol yn cael eu rhoi ar restr ddyletswydd i fod ar alwad
drwy gydol y tymor i ymateb i amodau gaeafol; bydd timau ymateb ar alwad yr
adran briffyrdd hefyd ar gael i gynorthwyo’r timau hyn os oes angen
· Bydd swyddogion ar ddyletswydd drwy gydol y gaeaf i fonitro rhagolygon y
tywydd ac i benderfynu ar y camau ataliol priodol
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y sir i ddigwyddiadau tywydd gwael
eraill, fel llifogydd a gwyntoedd cryfion, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i’r
Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod Rhanbarthol a fydd yn cael ei weithredu yn ystod
cyfnodau o law trwm neu ddigwyddiadau llifogydd eraill.
Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:
“Wrth baratoi’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf bu i ni ystyried amgylchiadau
lleol a phryderon ynghylch y gwasanaeth a all olygu newid ein harferion gwaith.
Bu i ni hefyd adolygu ein cadwyn gyflenwi bresennol, gan gynnwys cyflenwadau
halen, i sicrhau bod o gyflenwadau i gefnogi’r gwasanaeth.
“Er bod gennym ni gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf cyfyngedig ar gyfer rhedeg
y gwasanaeth o ddydd i ddydd, os ydym ni’n profi cyfnodau hir o dywydd gwael
bydd cyllid ac adnoddau pellach ar gael i helpu i gadwr rhwydwaith ffyrdd ar
agor an cymunedau yn ddiogel.