Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Amgueddfa Bwcle yn ailagor
Published: 20/09/2017
Yn dilyn ailddatblygiad sylweddol, ail-agorwyd Amgueddfa Bwcle yn ffurfiol yr
wythnos hon gan y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y
Fflint, Ian Bancroft.
Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn y seremoni yn cynnwys Liz Stewart o
National Museums Liverpool sy’n cynnwys nifer o arteffactau o ardal Bwcle.
Mae’r Amgueddfa’n gweithio’n agos gydag Amgueddfa Bwcle i sicrhau ei bod yn
“amgueddfa byw” gyda chasgliad sy’n newid o hyd.
Siaradodd Paul Davies o Gymdeithas Bwcle am y sesiynau a gaiff eu rhedeg gan y
gymdeithas yn yr amgueddfa i bobl ifanc a phobl hyn – gan ddod ag atgofion i
fywyd ac addysgu’r preswylwyr ifanc am eu treftadaeth.
Roedd aelodau o Gyngor Tref Bwcle, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd y Cwmni Hamdden
a Llyfrgelloedd newydd, Aura, hefyd yn bresennol.
Dywedodd Ian Bancroft:
“Roedd Cyfoeth Cymru Gyfan Bwcle wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Cronfa
Dreftadaeth y Loteri ac mae wedi codi safonau’r amgueddfa’n llwyr gan alluogi
gwrthrychau i gael eu benthyca gan National Museums Liverpool.”
Mae’r arddangosfeydd ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle, ac maen nhw’n edrych ar
orffennol diwydiannol yr ardal. Mae pwyslais penodol ar gynhyrchu crochenwaith
ym Mwcle. Gall ymwelwyr weld uchafbwyntiau o gasgliad Martin Harrison o
gerameg Bwcle. Mae’r arddangosfa hefyd yn edrych ar Jiwbilî Bwcle a’r clwb nos
enwog Tivoli.
Mae’r amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a dydd
Sadwrn rhwng 9.30 a 12.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.