Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich llwybr i Ofal Cymdeithasol

Published: 30/09/2022

social care male.jpgYdych chi eisiau gyrfa werth chweil?

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Datblygu'r Gweithlu Cyngor Sir y Fflint i gyflwyno rhaglen hyfforddiant ‘Llwybr i Ofal Cymdeithasol’ arall.

Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl leol gael yr hyfforddiant ac ennill y sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol, yn darparu gofal a chefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.

Hoffech chi fod yn rhan o’r cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddatblygu eich gyrfa a’r personoliaeth?  Hoffech chi’r cyfle i gael hyfforddiant achrededig ac ennill y sgiliau angenrheidiol i ymgeisio am swyddi o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol?

Os felly, cofrestrwch ar gyfer yr hyfforddiant, a gynhelir yn Swyddfeydd y Cyngor yn Nhy Dewi Sant, Ewlo, yn dechrau ddydd Llun 24 Hydref, drwy’r wythnos hyd at ddydd Gwener 28 Hydref.

Bydd y pum diwrnod llawn o hyfforddiant yn cynnwys:

  • Pasbort Symud a Lleoli
  • Cwrs Meddyginiaeth
  • Rheoli Heintiau
  • Diogelwch Bwyd
  • Epilepsi a Meddyginiaeth Achub
  • Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Iechyd a Diogelwch
  • Ymwybyddiaeth Diogelu Plant ac Oedolion

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd cyflogwyr gofal lleol hefyd ar gael i ddarparu gwybodaeth am y swyddi gwag sydd ar gael i gyfranogwyr.

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, sy’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hirdymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i waith, neu wella eu cyfle i ddod o hyd i waith.

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau am Waith, neu i gofrestru ar rai o’n rhaglenni llwybr, cysylltwch â Nia Parry neu Janiene Davies ar nia.parry@flintshire.gov.uk  07770633453 neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk  07770632128.